Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gyrru trwy eira a rhew


Summary (optional)
Aros yn ddiogel mewn amodau rhewllyd ac eira
start content

Cyn i chi ddechrau teithio, cliriwch yr holl eira oddi ar eich car, gan gynnwys y to a'r goleuadau. Os ydych yn gyrru gydag eira trwchus ar y to a'r boned gallai syrthio, gan leihau gwelededd y gyrrwr neu syrthio i lwybr cerbyd neu gerddwr arall.

Gwnewch yn siŵr fod eich ffenestr flaen yn glir o rew a stêm - mae’n anghyfreithlon gyrru heb allu gweld yn iawn drwy bob ffenest.

Byddwch yn wyliadwrus o rew - chwiliwch am gliwiau fel rhew ar y palmant neu ar ffenestr flaen eich car cyn i chi gychwyn ar eich taith, a byddwch yn ofalus.

Cadwch bellter lle gallwch stopio’n ddiogel rhyngoch chi a’r car o’ch blaen - gadewch gymaint â 10 gwaith y bwlch arferol.

Cadwch eich cyflymder yn isel, cyflymwch yn raddol a symudwch i gêr uwch mor sydyn â phosibl.

Ceisiwch beidio â brecio yn sydyn - gall gloi eich olwynion a gallwch sgidio ymhellach.

Gwyliwch am gerbydau'r gaeaf sy'n taenu halen neu'n defnyddio swch eira. Mae ganddynt oleuadau oren sy'n fflachio ac maent yn teithio yn araf. Arhoswch yn ôl oherwydd gall daflu halen neu ddŵr ar draws y ffordd. Peidiwch â goddiweddyd os nad yw'n ddiogel i chi wneud hynny - efallai bod eira heb ei glirio ar y ffordd o'ch blaen.

Pethau i'w cadw yn eich car

  • crafwr rhew
  • dadrewydd
  • ffôn symudol wedi'i wefru, a gwefrydd
  • torsh
  • pecyn cymorth cyntaf
  • rhaff lusgo
  • blancedi
  • côt gynnes a bŵts
  • gwifrau cyswllt
  • rhaw eira
  • triongl rhybudd
  • bwyd a diod cynnes mewn fflasg
  • sbectol haul i'ch helpu i weld mewn haul isel yn y gaeaf

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content