Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Graeanu'r briffordd


Summary (optional)
Rydym yn gwneud penderfyniadau bob dydd ynglŷn â graeanu ar gyfer rhew ac eira.
start content

Rydym yn cael rhagolygon tywydd dyddiol sy’n benodol i Sir Conwy drwy gydol y gaeaf. Mae’r rhagolygon hyn yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â thymheredd wyneb y ffordd. Rydym yn gwneud pob un o’n penderfyniadau ynglŷn â graeanu er lles diogelwch y ffodd, yn seiliedig ar y rhagolygon tywydd hyn.

Rhew

Ein nod yw gwneud yn siŵr ein bod yn taenu graean ar y Ffyrdd Prif Flaenoriaeth cyn i rew ffurfio. Mae’r rhwydwaith ffyrdd yn cael ei thrin unwaith eto os oes rhagolygon o rew a barrug. Ymhlith y Ffyrdd Prif Flaenoriaeth y mae priffyrdd, prif lwybrau bysus a llwybrau’r gwasanaethau brys.

Eira

Pan fydd rhagolygon o eira, bydd Ffyrdd Prif Flaenoriaeth yn cael eu graeanu ymlaen llaw i gadw'r rhwydwaith priffyrdd, prif lwybrau bysus a llwybrau’r gwasanaethau brys ar agor.

Ni fydd Ffyrdd â Blaenoriaeth Eilaidd megis isffyrdd a ffyrdd ystâd fel arfer yn cael eu graeanu oni bai bod amodau yn ddifrifol ac yn debygol o barhau am sawl diwrnod, ac wedyn dim ond os yw'r adnoddau ar gael ar ôl delio â Ffyrdd Prif Flaenoriaeth.

Mewn amodau eithafol o eira trwm, cyflogir contractwyr preifat ac amaethyddol i helpu i glirio'r eira.

Halen Graeanu

I dynnu rhew oddi ar wyneb y ffordd yn effeithiol, mae halen graeanu angen traffig. Mae llif traffig yn helpu'r broses o dorri’r gronynnau halen i lawr yn hydoddiant halwynog. Mae hyn yn toddi'r rhew yn gyflym ac yn atal mwy o rew rhag ffurfio am nifer o oriau.

Sefyllfaoedd sy'n gallu achosi problemau

Waeth pa mor gywir yw’r rhagolygon tywydd, mae yna sefyllfaoedd pan na allwn roi halen ar y rhwydwaith cyn i rew ffurfio. Mae sefyllfaoedd o'r fath yn cynnwys:

  • Pan fo’r awyr yn clirio’n gyflym ar ôl glaw. Fel arfer, bydd graeanu yn dechrau ar ôl i’r glaw beidio (er mwyn osgoi bod yr halen yn cael ei olchi i ffwrdd). Weithiau gall y tymheredd ostwng cymaint â 5°C yr awr a gall ffyrdd gwlyb rewi cyn i ni fod wedi gallu eu graeanu.
  • Mae Rhew’r Wawr yn digwydd ar ffyrdd sych pan fydd gwlith ben bore yn datblygu, yn syrthio ar ffordd oer ac yn rhewi wrth daro. Mae'n amhosibl rhagweld yn gywir ble a phryd y bydd hyn yn digwydd.
  • Eira awr frys. Pan fydd glaw yn troi'n eira, ni ellir graeanu yn gynnar oherwydd byddai'r glaw yn ei olchi i ffwrdd. Pan fydd hyn yn digwydd yn ystod yr awr frys, gall ein cerbydau graeanu gael eu dal mewn tagfeydd traffig.

Ffyrdd Prif Flaenoriaeth

Ymhlith y Ffyrdd Prif Flaenoriaeth y mae priffyrdd, prif lwybrau bysus a llwybrau’r gwasanaethau brys. Mae’r map yn dangos pob Ffordd Prif Flaenoriaeth, wedi eu rhannu’n ardaloedd.

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content