Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhoi gwybod am strwythurau peryglus


Summary (optional)
start content

Beth yw strwythur peryglus

Mae adeiledd yn cael ei ystyried yn strwythur peryglus os oes risg y gallai adeilad neu strwythur achosi niwed posibl i unrhyw un. Gallai hyn fod o ganlyniad i deils yn rhydd ar y to, waliau ansad neu ddifrod gan wyntoedd cryfion, gwrthdrawiad cerbyd neu dân. Nid yw adeiladau wedi eu hesgeuluso o anghenraid yn cael eu dosbarthu fel adeiladau peryglus.

Os ydych yn credu bod adeilad neu strwythur yn beryglus dylech roi gwybod i'r adain Rheoli Adeiladu mor fuan â phosibl er mwyn gallu ei archwilio a chymryd camau priodol. Yna bydd y camau canlynol yn cael eu cymryd:- 

Os credir bod yr adeilad / strwythur yn beryglus ac yn risg uniongyrchol i iechyd a diogelwch y cyhoedd ac nad yw'r perchennog yn gallu gwneud y gwaith angenrheidiol, gall yr Awdurdod gyflogi contractwyr i gael gwared ar unrhyw berygl uniongyrchol, fel arfer trwy ffensio o gwmpas ardal yr adeilad. Yna rhaid i'r perchennog wneud y gwaith adfer i gael gwared â'r bygythiad o berygl yn llwyr.

Os nad yw'r adeilad / strwythur yn fygythiad uniongyrchol i iechyd a diogelwch y cyhoedd, bydd yr Awdurdod yn cysylltu â'r perchennog ac yn rhoi amser rhesymol iddo wneud yr adeilad yn ddiogel. Yn y cyfamser byddwn yn parhau i fonitro'r adeilad i sicrhau nad yw'n dirywio.

Gall yr Awdurdod ond sicrhau bod y gwaith gofynnol yn cael ei wneud i sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel. Byddwn bob amser yn ceisio adennill unrhyw gostau.

end content