Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyflwyno cais Rheoli Adeiladu


Summary (optional)
start content

Os ydych chi'n bwriadu gwneud gwaith adeiladu sydd angen ei reoli, rhaid i chi gyflwyno cais. Mae dau fath o gais i bwrpas Rheoliadau Adeiladu, sef cais gyda Chynlluniau Llawn neu gais Hysbysiad Adeiladu.

Bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu:

Cynlluniau Llawn

Mae'r math hwn o gais yn addas i bob prosiect. Rhaid cyflwyno set fanwl o gynlluniau, manyleb a dogfennau ategol eraill. Bydd y cynigion yn cael eu gwirio i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu a bydd yr ymgeisydd neu'r asiant yn cael ei hysbysu ynglŷn ag unrhyw addasiadau y mae angen eu gwneud i'r cynlluniau. Unwaith y bydd yr holl wybodaeth a gyflwynwyd yn foddhaol bydd hysbysiad cymeradwyo'n cael ei gyflwyno.

Hysbysiad Adeiladu

Mae'r math hwn o gais ar gyfer estyniadau bach, addasiadau mewnol a mân waith arall mewn tai. Nid oes angen cyflwyno cynlluniau manwl i'w cymeradwyo, ond mae'n bosibl y gofynnir am gynllun penodol. Os yw'r cynnig yn cynnwys estyniad i ôl troed yr adeilad mae angen cynllun lleoliad ar raddfa o ddim llai na 1:1250.

Ffioedd

Gallwch dalu am eich cais Rheoli Adeiladu ar-lein

Ffurflen Gais Rheoli Adeiladu

end content