Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml - Coed


Summary (optional)
start content

Oes rhaid i mi gael caniatâd y Cyngor i dorri neu docio coeden yn fy ngardd?

Dim ond os yw'r goeden wedi'i diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed, yn tyfu mewn ardal gadwraeth neu wedi'i diogelu gan amod sy'n ymwneud â chaniatâd cynllunio.

Cysylltwch â'r Gwasanaethau Rheoleiddio i gael rhagor o wybodaeth.

Mae coeden fy nghymydog wedi tyfu yn rhy fawr ac mae'n atal fy ngolau a'm golygfa a gall fod yn beryglus. Beth alla i ei wneud?

Mae hwn yn fater preifat rhyngoch chi a'ch cymydog.  Gall y cyngor ymyrryd os yw'r goeden wedi'i diogelu mewn rhyw ffordd a bod angen caniatâd i wneud gwaith arni.

Os yw hyn yn ymwneud â 2 neu fwy o goed bytholwyrdd sy'n tyfu gyda'i gilydd, neu wrych conwydd, gall fod yn berthnasol i'r ddeddfwriaeth 'gwrychoedd uchel'.

Cysylltwch â'r Gwasanaethau Rheoleiddio i gael rhagor o wybodaeth.

Mae'r goeden ar y palmant y tu allan i fy nghartref yn tyfu dros fy ngardd, beth alla i ei wneud?

Yn gyffredinol, mae gan dirfeddianwyr hawl cyfreithiol i docio unrhyw ran o goeden gyhoeddus sy'n pwyso dros eu heiddo cyn belled â'r terfyn. Coed gyda Gorchmynion Diogelu Coed a choed mewn ardaloedd cadwraeth yw'r eithriad.

Cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw gwneud yn siŵr nad yw coeden wedi'i diogelu cyn gwneud gwaith neu awdurdodi gwaith.  Dylech gysylltu â'r Cyngor cyn dechrau ar unrhyw waith.

Rwy'n credu fod coeden yn beryglus, beth alla i ei wneud?

Cysylltwch â'r Amgylchedd, Ffyrdd A Chyfleusterau ar 01492 575337 a rhoi cymaint o fanylion â phosibl gan gynnwys: lleoliad, enw stryd, rhif y tŷ agosaf neu enw busnes, manylion ynglŷn â'r perygl, a rhif ffôn cyswllt.

Rwy'n bryderus nad yw'r coed y tu allan i'm cartref yn cael eu cynnal, pwy alla i ddweud wrthynt?

Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â choed yng Nghonwy ffoniwch Amgylchedd, Ffyrdd A Chyfleusterau ar 01492 575337 a gallant gyfeirio eich galwad at wasanaeth arall os oes angen

Rwyf wedi clywed fod rhai coed hardd ger fy nghartref yn mynd i gael eu torri. Beth alla i ei wneud?

Os nad yw'r coed wedi'u diogelu eisoes, gall y Cyngor ystyried gwneud Gorchymyn Diogelu Coed mewn rhai achosion er mwyn sicrhau nad oes gwaith amhriodol yn cael ei wneud.

Cysylltwch â'r Gwasanaethau Rheoleiddio i gael rhagor o wybodaeth.

end content