Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gorchmynion Diogelu Coed


Summary (optional)
Gwybodaeth am Orchmynion Diogelu Coed, Coed mewn Ardaloedd Gwarchodaeth a diogelu Gwrychoedd.
start content

Efallai mai Gorchymyn Diogelu Coed yw’r rheswm pam fod y coed wedi’u diogelu; neu oherwydd eu bod mewn Ardal Gadwraeth, neu oherwydd bod Amod ynghlwm wrth Ganiatâd Cynllunio. Mae'r rhan fwyaf o wrychoedd cefn gwlad yn cael eu diogelu'n awtomatig gan y Rheoliadau Gwrychoedd (a ddaeth i rym yn gymharol ddiweddar, ym 1997).

Os ydych yn ystyried gwneud gwaith ar goeden neu wrychyn, gall y Swyddog Coed roi gwybod i chi a oes rhyw fath o rym diogelu ynghlwm wrthynt (Os yw’r gwaith bwriedig yn y Parc Cenedlaethol, cysylltwch efo Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri).

Dylech anfon ymholiadau ar bapur at:

Ebost: cynllunioplanning@conwy.gov.uk

Adain Rheoli Datblygu
PO Box 1
CONWY
LL30 9GN

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru rôl i'w chwarae hefyd oherwydd efallai y bydd angen Trwydded Torri Coed arnoch. Mae hyn yn dibynnu ar faint o goed sydd angen eu torri. Mae Rheolwr Parciau y Cyngor yn gyfrifol am y rhan fwyaf o faterion sy'n ymwneud â choed sy'n berchen i'r Cyngor.

Gweler hefyd

end content