Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer Plant mewn Gofal
Bydd y Grant Hanfodion Ysgol ar agor o 1 Gorffennaf 2025 a bydd yn cau ar 31 Mai 2026.
Mae’r Grant Hanfodion Ysgol yn grant y gall gofalwyr/rhieni maeth wneud cais amdano ar ran y plentyn yn eu gofal sy’n mynychu ysgol yng Nghonwy. Bydd plant sy’n byw gyda Gofalwyr Maeth Conwy yn derbyn y grant yn awtomatig ni waeth ble maent yn mynd i’r ysgol ac felly nid oes angen i Ofalwyr Maeth Conwy wneud cais.
Pwy sy'n gymwys
Gall teuluoedd sydd â phlant yn y dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11 ar incwm is ac sy’n cael budd-daliadau penodol wneud cais am:
- £125 i bob dysgwr a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol
- £200 i’r dysgwyr hynny sy'n cychwyn ym mlwyddyn 7 (i helpu gyda’r chostau uwch sy’n gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd) a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol
Gall rhieni a gofalwyr dim ond gwneud un cais y flwyddyn ysgol ar gyfer pob plentyn.
Nid yw derbyn Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn rhoi hawl awtomatig i'ch plentyn i'r Grant Hanfodion Ysgol:
- Rhaid i ddysgwyr fod yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) sy'n destun prawf modd.
- Nid yw dysgwyr sy'n derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau diogelu trosiannol yn gymwys.
- Mae pob plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol yn gymwys i gael y grant.
Rydym hefyd yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio eu disgresiwn i ddarparu'r grant i blant nad oes gan eu rhieni/gofalwyr hawl i arian cyhoeddus.
Ni fydd derbyn y Grant Hanfodion Ysgol yn effeithio ar eich treth neu fudd-daliadau eraill.
Ar gyfer beth mae'r grant
Gall y Grant Hanfodion Ysgol helpu i dalu costau:
- gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau
- gweithgareddau ysgol, gan gynnwys dysgu offeryn cerdd, cit chwaraeon ac offer arall ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol
- hanfodion ystafell ddosbarth, gan gynnwys beiros, pensiliau a bagiau ysgol
- cyfarpar arbenigol ar gyfer gweithgareddau cwricwlwm newydd fel dylunio a thechnoleg
- cyfarpar TG: gliniaduron a thabledi yn unig (dim ond mewn sefyllfaoedd cyfyngedig lle nad yw ysgol yn gallu benthyg offer i'r teulu y dylid defnyddio’r Grant Hanfodion Ysgol)
- cyfarpar ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol fel dysgu yn yr awyr agored (er enghraifft, dillad gwrth-ddŵr)
- eitemau hanfodol nad ydynt yn wisg ysgol fel dillad i allu cymryd rhan mewn addysg breswyl awyr agored
- gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: sgowtiaid, geidiaid, cadetiaid, crefftau ymladd, chwaraeon, celfyddydau perfformio neu ddawns
I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd neu'r broses ymgeisio, cysylltwch â'r awdurdod lleol lle mae eich plentyn yn mynd i'r ysgol.
Ni fyddwch yn gallu cyflwyno’r ffurflen gais hon heb ddarparu manylion banc ar gyfer talu’r grant i chi os bydd eich cais yn llwyddiannus. Gwnewch yn siŵr bod y manylion talu gennych chi wrth law cyn dechrau’r cais.