Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cefnogi Plant sy'n Derbyn Gofal


Summary (optional)
Mae Plant sy’n Derbyn Gofal yn blant o dan 18 oed sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, neu rywun nad ydynt yn rhieni iddynt. Mae hyn yn cynnwys plant sy’n derbyn gofal gan berthnasau, gofalwyr maeth a chartrefi preswyl plant.
start content

Sut bydd plant yn dechrau ‘derbyn gofal’?

Daw plant i’n gofal fel arfer trwy’r llwybrau canlynol:

  • Mae rhieni wedi gofyn am gefnogaeth gennym am gyfnod byr, a bydd cymorth yn cael ei ddarparu i’r teulu i hwyluso dychweliad y plentyn gartref. Y rhiant neu’r gwarcheidwad fydd â chyfrifoldeb rhiant o hyd.
  • Mae’r plentyn mewn perygl sylweddol o niwed ac mae’r llys yn penderfynu y dylid rhoi gorchymyn gofal ar waith. Yna, bydd yr Awdurdod Lleol yn cymryd cyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac yn dod yn rhiant cyfreithiol, ochr yn ochr â rhiant neu warcheidwad y plentyn.

Beth sy’n digwydd pan fydd plentyn yn cael ei roi mewn gofal?

Byddwn yn asesu’r plentyn a’u hamgylchiadau cyn cytuno ar drefniadau gofal gyda’r plentyn (os yw’r plentyn yn deall) a’u teulu. Gall y trefniadau hyn gynnwys cynllun ar gyfer y broses o ddychwelyd y plentyn i’r cartref teuluol.

Dysgwch fwy am y cynllun amddiffyn gofal a chymorth.

Ein rôl fel rhiant cyfreithiol

Mae ein blaenoriaethau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yr un fath â rhai pob rhiant. Rydym eisiau iddynt fod yn hapus, iach a diogel, a’u bod yn gallu cyflawni eu potensial. Rydym eisiau i blant gael llais, dewis a rheolaeth, gyda chyfleoedd rheolaidd i rannu eu barn. Mae gan bob plentyn sy’n derbyn gofal eu Gweithiwr Cymdeithasol dynodedig eu hunain.

Ydych chi’n edrych ar ôl plentyn rhywun arall?

Os felly, efallai eich bod mewn ‘Trefniant Maethu Preifat’ a bod angen i chi roi gwybod i’r Awdurdod Lleol amdano. 
Dylech chi neu riant y plentyn wneud hyn 6 wythnos cyn dechrau’r trefniant, ond mewn argyfwng, dylech roi gwybod i ni o fewn 48 awr.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth:

  • Rhif ffôn: 01492 575111 Ddydd Llun i ddydd Gwener neu 0300 123 3079 ar unrhyw amser arall a gwyliau banc
  • E-bost: dyletswydd@conwy.gov.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content