Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Plant a Teuluoedd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych


Summary (optional)
Rydym yn helpu i atal plant a phobl ifanc rhag bod yn rhan o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio ar eu cymunedau.
start content

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 10 a 17 oed, yn ogystal â’u teuluoedd, dioddefwyr a chymdogaethau, er mwyn atal troseddu ac aildroseddu. Ein nod yw helpu i leihau faint o droseddu sy’n digwydd yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

Mae’r tîm yn cynnwys cydweithwyr o wahanol sefydliadau sy’n cydweithio, gan gynnwys:

  • Swyddogion Cyfiawnder Ieuenctid
  • Gweithwyr Atal
  • Gweithwyr Cymdeithasol
  • Swyddogion Prawf
  • Ymarferwyr camddefnyddio sylweddau
  • Arbenigwyr addysg
  • Gweithiwr cyswllt dioddefwyr
  • Ymarferydd Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc  (CAMHS)
  • Swyddog Heddlu
  • Swyddog Gwneud Iawn
  • Cymorth Busnes
  • Swyddogion Gyrfaoedd

Gyda phwy ydym yn gweithio?

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc:

  • Nad ydynt wedi troseddu, pan fo pryder y gallant ddechrau bod yn rhan o droseddu. Rydym yn galw hyn yn Rhaglen Gweddnewid neu Gefnogi Atal.
  • Sydd wedi bod yn rhan o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ble mae’r heddlu wedi eu hatgyfeirio at y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i weld os gallwn gynnig cefnogaeth.
  • Sydd wedi troseddu, ac mae’r heddlu wedi eu hatgyfeirio ar gyfer datrysiad y tu allan i’r llys, sef y Panel Atal

content

content

 

Mwy am y tîm

Mae gwaith arall a wnawn yn cynnwys:

  • Gwasanaethau oedolion priodol ar gyfer pobl ifanc yn ystod cyfweliadau â’r heddlu
  • Gweithdai ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd â chyllyll mewn ysgolion cynradd ac uwchradd lleol
  • Prosiectau cymunedol
  • Paratoi adroddiadau cyn dedfrydu ar gyfer y llys
  • Gwasanaethau cefnogi i ddioddefwyr troseddau gan gynnwys cyfiawnder adferol

Sut rydym yn cael ein cyllido

Rydym yn cael ein cyllido gan Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr, Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol Conwy a Sir Ddinbych a phartneriaethau strategol lleol.

Gwirfoddoli

Mae gennym nifer cynyddol o wirfoddolwyr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid sy’n cefnogi ein tîm. Mae gwirfoddolwyr yn cael cyfle i weithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, a chefnogi i wneud penderfyniadau yn ein cyfarfodydd panel.

Rydym yn annog rhai o bob oed a chefndir i gymryd rhan.

Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost i YOTadmin@conwy.gov.uk

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth, ffoniwch 01492 577377.

end content