Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Help gyda lle dwi'n byw


Summary (optional)
start content

Gall Therapyddion Galwedigaethol asesu ar gyfer addasiadau i’ch eiddo i’ch galluogi i fod yn fwy annibynnol, fel mynd i fewn / allan o’ch bath neu gawod yn ddiogel, mynd i fewn ac allan o’r tŷ, neu ddefnyddio pethau yn eich cegin neu'ch ystafell wely. Bydd cyllid ar gyfer addasiadau yn dibynnu ar bwy sy’n berchen ar eich eiddo: Ar gyfer pobl sydd berchen ac sy’n byw yn eu tŷ eu hunain a thenantiaid rhent preifat, gellir gwneud ceisiadau am Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl.

Ar gyfer pobl mewn llety landlord cymdeithasol cofrestredig, gellir gwneud cais am Grant Addasiadau Anabledd.

Mae gan Gartrefi Conwy ffynhonnell cyllid ar wahân ar gyfer eu cleientiaid.


Gwneud Cais am Lety

Mae tudalennau gwe Tai Conwy yn cynnig gwybodaeth am lety rhent a llety fforddiadwy sydd ar gael yn ardal Conwy gyda’r nod o helpu pobl sy’n chwilio am gartref i wneud y dewisiadau mwyaf addas iddyn nhw. Mae gan Gonwy Gofrestr Tai newydd sy’n cael ei rhannu gan bob darparwr tai yng Nghonwy ac mae’n cael ei defnyddio i ddyrannu tai cymdeithasol i ymgeiswyr cymwys ar draws Conwy. I gael eich cynnwys ar y gofrestr rhaid i chi fod ag angen cymwys o ran tai. Er mwyn ymgeisio i gael eich cynnwys ar y gofrestr rhaid i chi lenwi cais drwy SARTH (Un Llwybr Mynediad at Dai).


Byw â Chymorth

Mae gan y Gwasanaeth Anabledd nifer o wasanaethau byw â chymorth drwy sir Conwy. Fel arfer mae’r rhain yn denantiaethau bach gyda 1 - 4 person yn rhannu, tenantiaethau cysylltu bywydau Cysylltu Bywydau a Mwy neu PSS neu’n denantiaethau gyda Landlordiaid Cymwys lle mae pobl yn cael cymorth ychwanegol i'w galluogi i fyw'n annibynnol yn y gymuned.

Bydd tenantiaid fel arfer yn derbyn Budd-Dal Tai os ydynt yn gymwys, a byddant yn ei ddefnyddio i dalu eu rhent i’w landlord. Gall cymorth sy’n cael ei roi amrywio o ychydig oriau’r wythnos i 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos. Mae mynediad at fyw â chymorth drwy asesiad o anghenion ac atgyfeiriad at y panel Llety Anabledd.


Teleofal a Thechnoleg Gynorthwyol

Mae mwy o bobl yn defnyddio technoleg i gynorthwyo pobl i aros yn ddiogel ac yn annibynnol yn y gymuned. Bydd y Gwasanaeth Anabledd yn gweithio gyda chi er mwyn ceisio darganfod ffyrdd gwahanol o ddiwallu eich anghenion cymwys a bydd y defnydd o offer Teleofal a thechnoleg fodern yn un o'r rhain. Ewch i weld Gwasanaeth Teleofal Conwy am fwy o wybodaeth

Gofal Preswyl

Mae ychydig o Gartrefi Gofal Preswyl yng Nghonwy sydd wedi eu cofrestr gyda’r Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sy’n darparu lleoedd preswyl ar gyfer pobl sydd ag anableddau. Mae Cartrefi Gofal Preswyl yn cynnig llety a gofal personol i bobl nad ydynt o bosib yn gallu byw’n annibynnol. Gall lleoliadau fod yn y tymor byr neu’r tymor hir. Mae rhai cartrefi hefyd yn cynnig gofal gan nyrsys cymwys, sef Cartrefi Gofal Preswyl gyda Nyrsio. Mae mynediad at ofal preswyl drwy asesiad o angen.

end content