Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion CONWY Employment Hub secures up to £300,000

Bydd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn cael hyd at £300,000


Summary (optional)
start content

Bydd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn cael hyd at £300,000

Bydd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn cael hyd at £300,000 i ddarparu swyddi hanfodol ac academïau hyfforddiant addysg ledled y sir am y 12 mis nesaf.

Mae’r Prosiect Llwybrau i Gyflogaeth yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a gaiff ei weinyddu a’i reoli yn rhanbarthol.

Gyda’i gilydd byddant yn targedu diwydiannau sydd â phrinder llafur yn lleol, gan gynnwys Ynni a'r Amgylchedd, Adeiladu, Gweithgynhyrchu Uwch, Creadigol a Digidol, Twristiaeth a Lletygarwch, Iechyd a Bwyd a Ffermio.

Roedd grant Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn £292,510 ac yn yr wythnosau diwethaf mae hyfforddiant wedi dechrau, dan arweiniad sefydliadau allweddol ym mhob sector.

Ymysg y rhai i gofrestru ar gwrs oedd Haydn Foulkes, a fynychodd sesiynau gyda Go North Wales ym Mae Colwyn, yng Nghwesty’r Quay yn Neganwy a Gwesty’r Hilton yn Nolgarrog, dan arweiniad Prif Swyddog Gweithredol Twristiaeth Gogledd Cymru, Jim Jones.

Ers hynny mae Haydn wedi cael swydd yn yr arena lletygarwch.

Dywedodd “Rydym wedi dysgu llawer am dwristiaeth a lletygarwch yng Ngogledd Cymru trwy’r rhaglen gyfeillgar hon, sydd hefyd wedi darparu pecyn hyfforddi ac ymarferion i ni i ddatblygu ein syniadau a nodau ar gyfer hyn fel gyrfa yn y dyfodol”.

“Roedd yn ddefnyddiol iawn, nid yn unig y bu i mi ddysgu llawer am dwristiaeth a lletygarwch ond hefyd am fy agwedd at waith.

“Ers hynny, rwyf wedi cael cyflogaeth newydd, ac er nid fel tywysydd - sef beth oeddwn â’m golygon arno yn ystod y cwrs - mae dal yn y maes lletygarwch, sef arlwyo.

“Bu i mi wir ei fwynhau ac os nad oeddwn ar y cwrs efallai na fyddwn wedi ystyried hyn fel swydd.

Ychwanegodd Jim: “Rydym yn falch o gael cydweithio gyda Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy yn Academi Twristiaeth a Lletygarwch Go North Wales.

“Mae cydweithio gyda nhw wedi bod yn amhrisiadwy gan eu bod yn ein cyfeirio at gleientiaid sydd wedi eu gwirio’n drwyadl ac yn meddu ar wir frwdfrydedd ar gyfer cymryd rhan yn ein diwydiant.

“Mae hyn wedi bod o fudd mawr i ni, gan y gallwn bellach arwain yr unigolion hyn trwy hyfforddiant tuag at gyfleoedd swyddi sy’n cyd-fynd â’u dyheadau.

“Gyda’n gilydd, rydym yn meithrin cysylltiad cryf rhwng gweithwyr posib a chyflogwyr, gan wneud y broses o ddod o hyd i swyddi addas yn fwy effeithlon a gwerthfawr.”

 Dywedodd Libby Duo, Rheolwr Strategol Canolbwynt Cyflogaeth Conwy, y bydd yr arian yn eu galluogi i gefnogi hyd yn oed mwy o bobl i gael gwaith ac addysg dros y flwyddyn nesaf.

“Yn ogystal â darparu hyfforddiant ar swyddi penodol, bydd bob cwrs yn canolbwyntio ar gynyddu hyder, gwytnwch, lles, sgiliau adeiladu tîm a chyflogadwyedd,” dywedodd Libby.

“Byddant hefyd yn cynnwys llenwi CV/ffurflenni cais, sgiliau cyfweliad, cymwysterau achrededig i sectorau penodol a sgiliau TG sylfaenol, gyda chyflwyniad i bob sector gan gyflogwr neu arbenigwr diwydiant.

“Bydd y rhai fydd yn bresennol yn gyffredinol yn bobl sy’n barod i weithio neu’n agos at fod yn barod i weithio, gan gynnwys y rhai mewn swyddi tymhorol neu gontractau dim oriau a fydd yn elwa o gyflogaeth fwy sefydlog, ac mae ymdrechion i gynnwys pobl o gefndiroedd difreintiedig neu heriol.

“Rydym eisiau agor y cyfleoedd unigryw hyn i gynifer o bobl â phosib, ac mae hynny’n cynnwys cyflogwyr yng Nghonwy sydd ddirfawr angen gweithwyr ymroddgar, medrus.

“Yn ei dro bydd hynny yn cael sgil effaith ar gymunedau a’r economi leol, sef ein prif flaenoriaeth.”

Ewch i Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy - Hwb Cyflogaeth Conwy - Mwy o wybodaeth - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gael rhagor o wybodaeth am Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy a gwybodaeth am academïau hyfforddiant.

Neu, ffoniwch 01492 575578, ceh@conwy.gov.uk neu gallwch hunan-atgyfeirio ar y wefan Help Getting Into Work - Your Details - Section 1 - My Conwy (achieveservice.com)

 

Wedi ei bostio ar 20/12/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content