Aelod Cabinet yn annog preswylwyr i edrych ar sut y maen nhw'n talu eu Treth y Cyngor cyn y flwyddyn ariannol newydd
Mewn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf (24/01/23) roedd y Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet Cyllid yn cydnabod bod y costau byw cynyddol yn effeithio pawb.
Os ydych ar hyn o bryd yn talu Treth y Cyngor trwy ddebyd uniongyrchol dros gyfnod o 10 mis yna ystyriwch ymestyn eich debyd uniongyrchol i dros 12 mis er mwyn lleihau’r taliad misol.
Meddai’r Cynghorydd Priestley, “Dwi’n bwriadu talu fy Nhreth y Cyngor dros gyfnod o 12 mis drwy ddebyd uniongyrchol. Dwi’n ymwybodol fod pobl yn ei gweld hi’n anodd gyda chostau byw fel ag y maen nhw ar hyn o bryd. Gall lledaenu cost eich Treth y Cyngor dros 12 mis eich helpu rywfaint. Ac mi fyddwn yn annog pobl i feddwl am hyn rŵan cyn i’r biliau newydd gael eu hanfon allan.”
I ddarganfod mwy ewch i: www.conwy.gov.uk/trethycyngor
Ac ewch i wefan y Cyngor am unrhyw gymorth arall gyda chynnydd mewn costau byw: Costau Byw - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 01/02/2023