Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Lansio Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol

Lansio Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol


Summary (optional)
start content

Lansio Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol

Mae Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol Conwy Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU bellach ar agor a gwahoddir ceisiadau gan sefydliadau cymunedol.

Hoffai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dderbyn ceisiadau gan sefydliadau cymunedol sy’n awyddus i ddarparu prosiectau ar draws Conwy a fydd yn mynd i’r afael ag anghenion lleol ac yn cyfrannu at ddatblygu balchder mewn lle a gwneud gwahaniaeth gweledol.

Mae dwy elfen o’r Gronfa Allweddol:

  • Cronfa ar gyfer prosiectau bach Cynghorau Tref a Chymuned a fydd yn gwneud gwahaniaeth gweledol yn yr ardal leol.
  • Cronfa grantiau cystadleuol ar gyfer prosiectau rhwng £10,000 a £249,999 (gan asesu prosiectau llai fesul achos).

Mae cyfanswm o £3 miliwn i’w ddyrannu.  Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 22 Medi 2023.

Meddai’r Cyng. Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Rwy’n falch iawn bod y gronfa allweddol bellach ar agor ar gyfer ceisiadau am brosiectau llai.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau fod cyllid yn cael ei ddosbarthu ar draws y sir a bod cymunedau lleol yn elwa o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.”

“A thrwy ddyrannu swm penodol o’r gronfa allweddol gyffredinol yn arbennig ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned, gallwn sicrhau fod bob ardal o’r sir yn elwa o’r cyllid.”

“Mae hwn yn alwad agored am brosiectau yn Sir Conwy, ac rwy’n erfyn ar sefydliadau cymunedol i gyflwyno eu ceisiadau cyn gynted â phosibl.”

Gellir cael mynediad at y canllawiau llawn a’r porth ymgeisio ar:  Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog o raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn Mawrth 2025.  Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n gweithio gydag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru i weinyddu a rheoli rhaglen Cronfa Ffyniant a Rennir y DU yn rhanbarthol.  

Fodd bynnag, caiff penderfyniadau ynghylch pa brosiectau y dyrennir cyllid ar eu cyfer eu gweinyddu’n lleol.

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol Conwy gan:

  • Cynghorau Tref / Cymuned
  • Grwpiau a Chymdeithasau Cymunedol
  • Cymdeithasau Chwaraeon
  • Cyrff cyhoeddus, yn cynnwys yr Awdurdod Lleol
  • Sefydliadau’r trydydd sector
  • Elusennau Cofrestredig
  • Mentrau Cymdeithasol
  • Cydweithfeydd 
  • Cwmnïau cymdeithasol
  • Mentrau cymunedol
  • Cwmnïau preifat nid-er-elw
  • Cwmnïau cyfyngedig drwy warant 
  • Cwmnïau budd cymunedol ac ymddiriedolaethau datblygu 
  • Prifysgol / Coleg
  • Ysgolion
  • Eglwysi / Capeli
Wedi ei bostio ar 03/08/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content