Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Llwyddiant Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol ar gyfer 42 o brosiectau

Llwyddiant Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol ar gyfer 42 o brosiectau


Summary (optional)
start content

Llwyddiant Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol ar gyfer 42 o brosiectau

Rydym yn falch o gyhoeddi fod 42 o brosiectau yng Nghonwy am dderbyn cyllid gan Gronfa Allweddol Adfywio Cymunedol Conwy.

Cyflwynwyd ceisiadau gan sefydliadau cymunedol sydd eisiau darparu prosiectau i fynd i’r afael ag anghenion lleol, cyfrannu tuag at adeiladu Balchder mewn Lle a gwneud gwahaniaeth gweladwy.

Gyda chyfanswm o £3 miliwn wedi’i ddyrannu hyd yn hyn, mae’r prosiectau llwyddiannus yn amrywio o brosiectau ieuenctid, mentrau amgylcheddol a chyfleusterau chwarae, i adnewyddu adeiladau cymunedol.

Meddai’r Cynghorydd Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy Conwy: “Mae Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol wedi dosbarthu cyllid ar draws y sir i sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa ar yr UKSPF.

“Rwy’n falch iawn y bydd y prosiectau hyn yn gallu cyflawni gwaith hanfodol yn ein cymunedau a chyda nhw. Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt.”

Meddai’r Gwir Anrhydeddus David Jones, AS Gorllewin Clwyd: “Ar hyd a lled Gorllewin Clwyd mae cymunedau yn gweld buddion go iawn yn sgil Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

“Mae’r rhain yn amrywio o ychydig filoedd o bynnau ar gyfer ailwampio llefydd chwarae i chwarter miliwn o bunnau i ailwampio’r trac athletau yn Stadiwm CSM, Parc Eirias.

“Y thema drosfwaol yw gwneud Bwrdeistref Sirol Conwy yn lle dymunol i fod ynddo: i wella ein mannau agored sydd eisoes yn ddeniadol gyda chyfleusterau hamdden a chwaraeon modern.

“Llongyfarchiadau mawr i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am weithio mor effeithiol gyda’r llywodraeth.”

Meddai Robin Millar, AS Aberconwy: “Dw i’n falch iawn o weld gwaith caled sawl grŵp a’u syniadau yn cael eu cefnogi drwy Gyllid Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

“Fy nau uchelgais oedd sicrhau buddsoddiad ar gyfer Aberconwy a gogledd Cymru – a gwneud yn siŵr bod rhywfaint ohono yn canfod ei ffordd i’r grwpiau sy’n gweithio ar y rheng flaen yn ein cymunedau.

“Dw i hefyd yn falch bod llawer o’r dyfarniadau wedi mynd i faterion y mae trigolion wedi’u codi gyda mi yn uniongyrchol. Mae ystod y dyfarniadau – o brosiectau mawr fel Neuadd i Bawb yng Nghonwy ac atgyweirio maes parcio promenâd Llanfairfechan i gynlluniau llai ym Maenan – yn amlygu bod yr arian yn mynd at bethau sydd eu hangen. Dw i’n gwybod bod rhai cynlluniau wedi colli allan, ond dw i’n gobeithio mai dim ond y dechrau ydi hyn.

“Diolch i Gyngor Conwy a CGGC am yr holl waith maen nhw wedi’i wneud yn hyrwyddo’r dyfarniadau yma ac yn gweinyddu’r dyfarniadau a’r ddarpariaeth. Byddaf yn dilyn cynnydd y cynlluniau hyn yn ystod y misoedd nesaf.”

Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiectau llwyddiannus a’r UKSPF ar wefan y Cyngor: Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ran o raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Am ragor o wybodaeth, ewch i Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: prosbectws - GOV.UK (www.gov.uk)

 

Wedi ei bostio ar 04/03/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content