Bydd Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol yn cael ei lansio’n fuan a bydd yn gyfle cyffrous i fudiadau cymunedol gyflawni prosiectau ar draws Conwy a fydd yn cyfrannu at adeiladu ‘Balchder Bro’ a ‘gwneud gwahaniaeth gweladwy’ trwy Flaenoriaeth Buddsoddi Cymunedau a Lle Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU.
Bydd y gronfa’n ystyried ceisiadau ar gyfer pob prosiect o dan faes Blaenoriaeth Buddsoddi Cymuned a Lle (W1-W15). Bydd angen i geisiadau prosiectau ddangos sut y byddant yn cyflawni’r allbynnau a’r canlyniadau cysylltiedig. Gall prosiectau wneud cais am hyd at £250,000 o Grant o'r Gronfa a rhaid i bob prosiect fod wedi'i gwblhau erbyn hydref 2024.
Er mwyn paratoi at lansiad y gronfa, dylai darpar ymgeiswyr ddechrau ystyried rŵan pa mor gydnaws yw eu prosiect ag ymyriadau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (W1-W15).
Bydd canllawiau pellach ar gael pan fydd y gronfa'n cael ei lansio’n ffurfiol yn haf 2023.
Bydd ‘Cronfa Allweddol Cefnogi Busnesau Lleol’ a ‘Chronfa Allweddol Pobl a Sgiliau’ yn dod yn fuan hefyd, felly cadwch olwg am ddiweddariadau.
Os hoffech gael gwybod pan fydd y gronfa’n cael ei lansio, anfonwch eich manylion cyswllt atom – sharedprosperityfund@conwy.gov.uk
