Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Conwy adopts Anti-Racism Charter

Conwy'n mabwysiadu Siarter Gwrth-hiliaeth


Summary (optional)
start content

Conwy'n mabwysiadu Siarter Gwrth-hiliaeth

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i Siarter Gwrth-hiliaeth UNSAIN Cymru.

Mabwysiadwyd Siarter Gwrth-hiliaeth Unsain yn unfrydol gan y Cynghorwyr yng nghyfarfod y Cyngor llawn ar 19 Hydref 2023.

Mae’r Siarter yn ymrwymo’r Cyngor i ystod o addewidion sydd wedi eu dylunio i atal pob ffurf o ragfarn hiliol ymwybodol ac anymwybodol.  Ymysg yr addewidion mae cefnogi gweithlu sy’n amrywiol o ran hil, cydnabod effaith hiliaeth ar les staff ac adolygu’r strategaethau’n barhaus i wella cydraddoldeb hiliol, amrywiaeth a chynhwysiant.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Cater, Aelod Cabinet Democratiaeth a Llywodraethu Conwy: “Conwy yw’r Cyngor cyntaf yng ngogledd Cymru i ymrwymo, ac rwy’n falch bod yr addewidion hyn eisoes wedi eu hintegreiddio i’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft a’n Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol drafft.

“Drwy fabwysiadu’r Siarter, rydym yn dangos ein bod yn gwneud ymrwymiad gwirioneddol i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd sy’n bodoli rhwng gwahanol grwpiau. Rydym yn addo y bydd Conwy yn wrth-hiliol – nid anhiliol yn unig – ym mhopeth yr ydym yn ei wneud, a byddwn yn rhoi ein cefnogaeth i gael gwared â’r holl wahaniaethu ar sail hil ym mhob ffurf. Rydym yn edrych ymlaen at barhau ein perthynas waith gref gyda’r Undebau Llafur er mwyn cael cymdeithas fwy cynhwysol sy’n mynd i’r afael â gwahaniaethu ac sy’n hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.”

“Mae gweithle tecach yn weithle gwell, felly drwy gael gwared â gwahaniaethu o bob un o’r 9 nodwedd warchodedig, byddwn yn sicrhau gwell gwasanaeth cyhoeddus i bobl ledled Conwy.”

Dywedodd Calvin Smeda, Trefnydd Rhanbarthol UNSAIN: “Dylid llongyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar fod yr awdurdod cyntaf yng ngogledd Cymru i arwyddo’r Siarter, gan y bydd hyn yn cadarnhau ymrwymiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae hefyd yn anfon neges gref y bydd y Cyngor yn ymroddedig i herio gwahaniaethu a rhagfarn yn uniongyrchol.

“Nid yw arwain trwy esiampl yn awgrym yn unig; y mae’n rheidrwydd. Yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, mae’n rhaid i ni ymgorffori’r gwerthoedd yr ydym yn eu cefnogi – dylai geiriau, gweithredoedd a pholisïau adlewyrchu ein hymroddiad i greu cymdeithas fwy cynhwysol. Gadewch i’n gweithredoedd fod yn obaith i eraill nad oes lle i hiliaeth yn ein byd.”

Wedi ei bostio ar 04/12/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content