Cam 2 Gele Gwyrdd yn dechrau
Mae contractwyr wedi dechrau gweithio ar gam nesaf prosiect Gele Gwyrdd yn Abergele.
Mae gwaith i blannu coed, blodau a gwrychoedd newydd wedi cael ei gwblhau ym Mharc Gele a Pharc Pentre Mawr gyda chymorth aelodau’r gymuned.
Gall Cam 2 ddechrau rŵan, a fydd yn cynnwys adeiladu llwybrau newydd ym Mharc Gele a gofod digwyddiadau cymunedol ym Mharc Pentre Mawr. Efallai bydd rhannau o’r parc wedi’u ffensio pan mae’r gwaith yn cael ei gwblhau.
Mae Prosiect Gele Gwyrdd, sy’n rhan o Gynllun Lleoedd Abergele, yn canolbwyntio ar wella ansawdd a mynediad at fan gwyrdd yng nghymuned Abergele.
Cefnogir Prosiect Gele Gwyrdd gan y Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) a chyllid Adran 106.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n gweithio gyda Chyngor Tref Abergele i gyflawni Cynllun Lleoedd Abergele.
Mae mwy o wybodaeth am Gynllun Lleoedd Abergele a Phrosiect Gele Gwyrdd yma: Abergele | Y Dyfodol - Cynllun Cynefin Abergele (abergelepensarn.co.uk)
Wedi ei bostio ar 08/08/2023