Gwaith plannu Gele Gwyrdd yn dechrau yr wythnos hon
Yr wythnos hon bydd contractwyr yn dechrau ar waith plannu ychwanegol ym Mharc Gele a pharc Pentre Mawr yn Abergele.
Mae Prosiect Gele Gwyrdd, sy’n rhan o Gynllun Lleoedd Abergele, yn canolbwyntio ar wella ansawdd a mynediad at fan gwyrdd yng nghymuned Abergele.
Pan fydd y gwaith o blannu coed, gwrychoedd a blodau wedi ei gwblhau, bydd gwaith creu man ar gyfer digwyddiadau cymunedol ym Mhentre Mawr a gwaith gwella’r llwybrau ym Mharc Gele’n digwydd yn fuan wedyn.
Cefnogir Prosiect Gele Gwyrdd gan y Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) a chyllid Adran 106.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n gweithio gyda Chyngor Tref Abergele i gyflawni Cynllun Lleoedd Abergele.
Mae mwy o wybodaeth am Gynllun Lleoedd Abergele a Phrosiect Gele Gwyrdd yma: Abergele | Y Dyfodol - Cynllun Cynefin Abergele (abergelepensarn.co.uk)
Nodiadau:
Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW), wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun hwn yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ddarperir o dan ran o Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (UE) 1305/2013).
Wedi ei bostio ar 19/04/2023