Dywedwch eich barn am bremiymau Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor yn Sir Conwy
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnal arolwg ar ei fwriad i godi premiymau Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor ar gyfer 2024/25.
Pwrpas y premiwm yw annog perchnogion i ddefnyddio cartrefi gwag a chynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar werth neu ar osod mewn cymunedau lleol.
Mewn cyfarfod ym mis Rhagfyr eleni, penderfynodd y Cyngor i gynyddu premiymau ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor i 100% o 1 Ebrill 2024, yn amodol ar adolygiad yn ystod 2023/24.
Rŵan, fel rhan o ymchwil y Cyngor, hoffai glywed gan berchnogion ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor, yn ogystal â’r rhai nad ydynt yn berchen eiddo o’r fath, am eu barn nhw am y premiymau. Mae’r arolwg hefyd yn rhoi cyfle i bobl roi eu barn ar effaith y premiwm ar dwristiaeth, y Gymraeg a thai fforddiadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet Cyllid, Refeniw a Budd-daliadau, “Mae’r ymgynghoriad hwn ar agor i bawb ei gwblhau, ac rydym yn awyddus i gael barn gymaint o bobl â phosib. Mae llawer i’w ystyried wrth edrych ar bremiymau treth y Cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor, felly byddwn yn annog pobl i gael lleisio barn”
Bydd canlyniadau’r arolwg ac ymchwil eraill, yn cael eu hystyried gan Gynghorwyr pan fyddent yn gwneud y penderfyniad terfynol am y premiwm ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 14 Gorffennaf 2023. Mae ar gael yma: https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Council-Tax/Council-Tax-Consultation.aspx
Wedi ei bostio ar 12/06/2023