Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Next Stage for Place Plan

Cam Nesaf ar gyfer Cynllun Lle


Summary (optional)
start content

Cam Nesaf ar gyfer Cynllun Lle

Mae ymgynghoriad yn dechrau’r wythnos hon i gydnabod Cynllun Lle Towyn a Bae Cinmel fel Canllaw Cynllunio Atodol (CCA).

Cafodd Cynllun Lle Towyn a Bae Cinmel ei gymeradwyo a’i lansio ym mis Hydref 2022. 

Cafodd ei greu gan bartneriaeth leol TKB Voice yn dilyn ymgynghoriad gyda’r gymuned leol, mae’r Cynllun Lle Towyn a Bae Cinmel yn cynnwys blaenoriaethau ar gyfer y gymuned dros y blynyddoedd nesaf.  

Mae TKB Voice nawr yn gweithio er mwyn i’r Cynllun Lle gael ei gydnabod yn swyddogol fel Canllaw Cynllunio Atodol (CCA).  Mae hyn yn golygu y bydd y cynllun yn cael ei weld fel dogfen swyddogol ac yn destun ystyriaeth pan fydd syniadau newydd yn cael eu cynnig ar gyfer yr ardal.   Os caiff hyn ei gymeradwyo, hwn fydd y Cynllun Bro cyntaf yng Nghonwy i gael statws Canllaw Cynllunio Atodol.

Gwahoddir y gymuned leol i gyflwyno eu barn ar pa un a ddylai Cynllun Towyn a Bae Cinmel gael ei fabwysiadu fel Canllaw Cynllunio Atodol. 

Dywedodd y Cyng. Emily Owen, Aelod Cabinet Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio: “Mae Cynllun Lle Towyn a Bae Cinmel yn ganlyniad ymgysylltu sylweddol gyda’r gymuned a chefnogaeth gan wasanaethau mewnol ac allanol.  Rwy’n cefnogi’r camau a gymerir a’r Cynllun Lle terfynol yn cael ei fabwysiadu fel Canllaw Cynllunio Atodol ac rwy’n annog y gymuned leol i gyflwyno eu barn.”

Mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 4 wythnos tan 26 Mai 2023. 

Mae copiau papur o’r ymgynghoriad a’r Cynllun Lle ar gael i’w gweld yn Eglwys y Santes Fair yn Nhowyn, Llyfrgell Bae Cinmel a Chanolfan Adnoddau Bae Cinmel.  Bydd yr ymgynghoriad hefyd ar gael ar-lein yn https://conwy.oc2.uk/cy/

Wedi ei bostio ar 02/05/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content