Wythnos ar ôl i gofrestru i bleidleisio
Ddydd Iau 2 Mai, bydd pleidleiswyr ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn bwrw eu pleidlais ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Y dyddiad cau i gofrestru yw dydd Mawrth 16 Ebrill.
Gyda dim ond wythnos i fynd tan y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn annog preswylwyr i wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru mewn pryd.
Meddai Rhun ap Gareth, Swyddog Canlyniadau Lleol Ardal Bleidleisio Conwy: “Gyda dim ond wythnos i fynd, mae amser yn brin i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau ddydd Iau 2 Mai.
“Mae’r etholiadau hyn yn gyfle i gael dweud eich dweud ar bwy sy’n cynrychioli’r cyhoedd ac yn gosod y blaenoriaethau ar gyfer plismona yng Ngogledd Cymru.
“Ond, os na fyddwch ar y gofrestr erbyn 16 Ebrill, ni fyddwch yn gallu pleidleisio.”
Cofrestrwch ar-lein drwy www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu ffoniwch Linell Gymorth Etholiadau Conwy ar 01492 575570.
I gael mwy o wybodaeth am etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, ewch i:
Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 09/04/2024