Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn atebol am y ffordd o fynd i’r afael a throsedd yn eu hardal heddlu nhw.
Mae’r Comisiynydd ar gyfer Gogledd Cymru’n gyfrifol am ddwyn y Prif Gwnstabl a Heddlu Gogledd Cymru i gyfrif ar eich rhan, a bydd yn goruchwylio'r ffordd o fynd i’r afael â throseddau yng Ngogledd Cymru ac yn anelu at sicrhau bod yr Heddlu’n darparu gwasanaeth da.
Bydd etholiadau nesaf Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn cael eu cynnal ar 6 Mai 2021.
Dyddiadau Pwysig:
- Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio: dydd Llun, 19 Ebrill 2021
- Dyddiad cau gwneud cais am bleidlais bost: 5pm ddydd Mawrth, 20 Ebrill 2021
- Dyddiad cau gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy: 5pm ddydd Mawrth, 27 Ebrill 2021
Pwy sy'n cael pleidleisio:
I bleidleisio yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio, yn 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod y bleidlais a hefyd yn un o'r canlynol:
- dinesydd Prydeinig, dinesydd Gwyddelig, dinesydd y Gymanwlad neu’r UE
- yn preswylio yng Nghymru, a
- heb unrhyw rwystr cyfreithiol i bleidleisio
Mae enwebiadau i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cau am 4pm ddydd Iau, 8 Ebrill 2021.
Ardal Heddlu Gogledd Cymru
Penodwyd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett, yn Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar gyfer Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd. Mae hyn yn golygu ei fod yn gyfrifol am y modd y caiff yr etholiad yn ardal Gogledd Cymru ei gynnal yn gyffredinol.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am yr etholiad hwn: Gwefan Cyngor Sir Y Fflint
Hysbysiadau etholiad:
Rhybudd Etholiad - Ardal Heddlu Gogledd Cymru - 06.05.2021
Datganiad am y Personau a Enwebwyd a Rhybudd y Bleidlais - Ardal Heddlu Gogledd Cymru - 09.04.21