Browser does not support script.
Datganiad (05/09/23):
Mae gennym raglen archwilio reolaidd ar gyfer yr holl eiddo, ac nid ydym wedi canfod pryderon yn ymwneud â RAAC.
Cyn i ganllawiau diwygiedig yr Adran Addysg (DfE) gael eu cyhoeddi ym mis Awst 2023, yr oeddem eisoes wedi ychwanegu at y drefn hon ar gyfer pob eiddo y mae’n bosibl yr effeithiwyd arnynt, drwy gomisiynu peirianwyr annibynnol i gynnal profion pellach i gadarnhau a oedd unrhyw broblemau. Yr ydym yn disgwyl i’r gwaith hwn gael ei gwblhau ac am yr adroddiad terfynol.
Mae’r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr Strategol, yr Arweinydd ac Aelodau’r Cabinet wedi cyfarfod â’r gwasanaethau perthnasol ddoe, a byddant yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n ofalus.
Yn ogystal, cadarnhawyd bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu arolwg o bob coleg ac ysgol a ariennir gan y wladwriaeth. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r Llywodraeth ar y mater hwn. Dolen i Ddatganiad Llywodraeth Cymru: Datganiad Ysgrifenedig: Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) mewn sefydliadau addysg yng Nghymru (4 Medi 2023) | LLYW.CYMRU
Diweddariadau:
13/09/23: Ysgol Maes Owen - RAAC - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 15/09/23: Newyddion diweddaraf: Ysgol Maes Owen - RAAC - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy