Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Amddiffynfeydd Arfordirol a Phromenâd Llandrillo-yn-Rhos
- Mae’r llwybr i gerddwyr ar agor yn llwyr ar hyd rheiliau glan y môr.
- Mae pob pwynt mynediad i’r traeth ar agor.
- Mae offer campfa yn cael ei osod ar hyd Promenâd Cayley – mae wedi’i ddewis yn arbennig i bobl hŷn ymarfer eu cymalau a chael ymarfer corff ysgafn i’w calonnau a chyhyrau, ond gall pawb ei ddefnyddio.
- Mae ein contractwyr yn parhau â gwaith gosod pafin a blociau.
- Mae dodrefn gan gynnwys meinciau a byrddau picnic ar y safle yn barod i gael eu gosod.
- Y dasg olaf fydd gosod wyneb ar y ffordd, ac mae angen tywydd sych ar gyfer hyn.
Bydd y promenâd yn agor fesul rhan pan fyddant yn barod. Y rhannau nesaf i agor fydd yr offer campfa ar Bromenâd Cayley yr wythnos hon, yna’r ardal eistedd ger y llwybr i gerddwyr ar y promenâd is, a fydd yn cynnwys meinciau, gwelyau i orwedd yn yr haul a seddi wedi’u gorchuddio.
Ein nod yw cwblhau gymaint ag sy’n bosibl o’r gwaith cyn gwyliau haf yr ysgolion. Diolch i chi am eich amynedd.
Rydym yn disgwyl cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y ciosgau newydd cyn hir – mwy o wybodaeth i ddod!
Wedi ei bostio ar 03/07/2023