Beth sydd angen i mi ei wneud?
Mae'n ofynnol i bob busnes bwyd yn ôl y gyfraith gael system rheoli diogelwch bwyd ar waith er mwyn nodi peryglon bwyd posibl. Rhaid i chi wedyn benderfynu pa rai o'r peryglon hyn sydd angen eu rheoli i sicrhau bod bwyd yn ddiogel, rhoi rheolaeth effeithiol a gweithdrefnau monitro ar waith i atal y peryglon rhag achosi niwed i ddefnyddwyr a chadw cofnodion ysgrifenedig o'ch camau monitro. Cyfeirir at y system hon weithiau fel HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol).
Dylid adolygu eich system dadansoddi peryglon bob blwyddyn a phryd bynnag rydych yn gwneud unrhyw newidiadau i'ch busnes, er enghraifft i’ch bwydlen neu offer.
Cyngor ac Arweiniad
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi datblygu ystod o becynnau rheoli diogelwch bwyd ar gyfer sectorau gwahanol y diwydiant bwyd, i helpu gweithredwyr busnesau bwyd reoli eu gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd.
Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell
Un o'r prif systemau a ddefnyddir yw pecyn o'r enw Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell, sy'n helpu busnesau bach gyda gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd. Mae nifer o becynnau Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell ar gael sydd wedi'u cynllunio i gwrdd ag anghenion penodol gwahanol fusnesau bwyd (manwerthu, arlwywyr, gofalwyr plant, gwahanol ddulliau coginio), y gall pob un ohonynt gael eu llwytho i lawr a'i hargraffu oddi ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Fel arall, gellir eu harchebu ar hyn o bryd yng Nghymru drwy ffonio cyhoeddiadau'r Asiantaeth Safonau Bwyd ar 0845 606 0667.
MyHACCP
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd wedi cyflwyno’r offeryn MyHACCP newydd gyda’r bwriad o gefnogi busnesau gweithgynhyrchu bwyd bach i ddatblygu eu system rheoli diogelwch bwyd sy'n seiliedig ar HACCP. Mae'n eich tywys drwy broses gam-wrth-gam i adnabod peryglon diogelwch bwyd a rheolaethau ac yn rhoi allbwn PDF Adobe i'w lwytho i lawr o'ch astudiaeth HACCP a’ch rheolaethau sy'n seiliedig ar HACCP.
Fel rhan o'r arolygiadau arferol, bydd swyddogion diogelwch bwyd yn gwirio bod y busnes gyda system rheoli diogelwch bwyd briodol yn seiliedig ar HACCP. Gall hyn effeithio ar sgôr hylendid bwyd busnes.
Os oes angen cymorth pellach, cysylltwch â ni.
Dolenni defnyddiol