Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gyrrwr Cerbyd Hacni - Caniatâd


Summary (optional)
Mae angen trwydded cyn i unrhyw berson allu gyrru Cerbyd Hacni. Mae trwyddedau yn cael eu cyflwyno yn amodol ar brawf cymhwyster (oed, trwydded yrru, gwiriad cofnodion troseddol, asesiad meddygol ac ati)
start content

Sut i wneud cais

Mae’n rhaid i ymgeisydd fod â Thrwydded Yrru lawn ers o leiaf 12 mis a rhaid bod ganddynt drwydded o’r fath pan fyddant yn cyflwyno eu cais. Yn ogystal, cyn y gall y Cyngor roi Trwydded, mae'n rhaid iddynt fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol.

Mae’n rhaid cyflwyno ffurflen gais ar-lein, dogfen ddigidol gefnogol a’r ffi er mwyn derbyn y cais.  Mae’n rhaid i’r ymgeisydd fynychu’r sesiwn ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a llwyddo yn y prawf gwybodaeth cyn y gellir rhoi Trwydded. 

Cyn gwneud cais, sicrhewch eich bod yn darllen yr wybodaeth isod a fydd yn cael ei hystyried gan yr Awdurdod Trwyddedu wrth benderfynu ar gais:

Er mwyn cwblhau’r ffurflen gais ar-lein, gwnewch yn siŵr fod gennych y dogfennau digidol canlynol.

  • Trwydded Yrru Lawn y DVLA â cherdyn llun (sy’n bodoli ers o leiaf 12 mis) yn rhoi manylion eich cyfeiriad post llawn cyfredol.
  • Cod Gwiriad DVLA - https://www.gov.uk/view-driving-licence
  • Darparu Tystysgrif GDG Manylach (gweler isod)
  • Darparu ffurflen adroddiad meddygol a gwblhawyd gan nodi eich addasrwydd i yrru cerbyd trwyddedig. Rhaid i'r adroddiad gael stamp Meddyg wedi’i ardystio arno

    Tystysgrif Feddygol (Microsoft Word, 45KB)

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac Euogfarnau Troseddol

Mae’n rhaid i chi gael enw da. I sefydlu hyn byddwch angen gwiriad cofnodion troseddol ‘manylach’ gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Polisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar euogfarnau troseddol (PDF)

Mae gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wasanaeth tanysgrifio ar-lein sy’n caniatáu i ymgeiswyr ddiweddaru eu tystysgrifau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cofrestru ar gyfer gwasanaeth diweddaru’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth diweddaru naill ai pan fyddwch yn ymgeisio am eich gwiriad GDG neu drwy ddefnyddio eich rhif tystysgrif GDG gwreiddiol pan fydd wedi’i gyhoeddi) mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad y cafodd eich tystysgrif GDG ei gyhoeddi).

Os byddwch angen Tystysgrif Fanylach, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn defnyddio cwmni cofrestredig o’r enw Checks Direct, mae’r rhain yn asiantaeth ymbarél i GDG, a fydd yn ymdrin â’ch cais ar ein rhan.  Gallwch wneud y taliadau’n uniongyrchol drwy Checks Direct Checks Direct | DBS Checks, Vetting & Screening Services.

Byddwch angen darparu tair dogfen i wirio eich hunaniaeth (e.e. Pasbort, Trwydded Yrru a Bil Gwasanaeth) *Canllawiau gwirio hunaniaeth ar gyfer ceisiadau gwirio GDG safonol/manylach - GOV.UK (www.gov.uk)

Bydd angen diweddaru tystysgrifau DBS bob 3 blynedd


Yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig

Mae’n ddyletswydd ar yr Awdurdod Trwyddedu i sicrhau bod gennych chi hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gall methu â darparu’r wybodaeth a ofynnir amdani yn Atodiad A olygu y gall eich cais gael ei wrthod.

Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant a Phrawf Gwybodaeth

I archebu ffoniwch 01492 576626

Dyddiadau 2024

Dyddiadau 2024
 Dyddiadau Amser
 11 Ebrill                                                                                                      11yb                                                                     
1 Mai 11yb 
4 Mehefin 11yb 
9 Gorffennaf 11yb 
14 Awst 10.30yb
 4 Medi   11yb 
8 Hydref 11yb 
6 Tachwedd 11yb 
4 Rhagfyr 11yb 


Ffïoedd

MathCost

Caniatâd (3 blynedd)

£382.00

Adnewyddu (3 blynedd)  

£251.00

Ail-sefyll Prawf Gwybodaeth Cerbyd Hacni

£51.00

Gwiriad DVLA (bob 3 blynedd ar ôl ei ganiatáu)

£10.00

GDG, CRB yn flaenorol (bob 3 blynedd ar ôl caniatáu)

£48.00

Tystysgrif Feddygol Dosbarth 2 (bob 5 mlynedd ar ôl caniatáu nes cyrraedd 65 oed ac yna bob blwyddyn wedi hynny).

Cost wedi’i benderfynu gan Ymarferydd Meddygol


Mae gan y Cyngor yr hawl i ganiatáu neu wrthod y drwydded. Efallai y bydd rhai ceisiadau yn cael eu cyfeirio at Bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio Cyffredinol y Cyngor er mwyn gwneud penderfyniad.

Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o benderfyniad eu cais yn ysgrifenedig, o fewn 14 diwrnod o wneud y penderfyniad.

Deddfwriaeth ac Amodau

Prosesu ac Amserlenni

Unwaith y bydd yr holl waith papur wedi’i dderbyn gan yr ymgeisydd ac asiantaethau allanol ac ar ôl mynychu’r sesiwn ymwybyddiaeth Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant a llwyddo yn y Prawf Gwybodaeth Cerbyd Hacni, gall y drwydded gymryd hyd at 28 diwrnod i’w chynhyrchu. 

Dulliau Apelio / Unioni:

Byddai'r ymgeisydd yn gallu apelio unrhyw benderfyniad trwy gyfrwng cwyn i'r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am benderfyniad y Cyngor.

Cysylltu â ni

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content