Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trwyddedau a Hawlenni Trwyddedu Tacsis Cerbyd Hacni Hackney Vehicle Trwydded (Perchennog) Cerbyd Hacni - Caniatáu

Trwydded (Perchennog) Cerbyd Hacni - Caniatáu


Summary (optional)
A Hackney Carriage vehicle is any vehicle capable of carrying up to eight passengers for reward/benefit, a hackney Carriage can be hired on a rank, be hailed in the street or booked through an operator. Mae Cerbyd Hacni yn unrhyw gerbyd sy'n gallu cludo hyd at wyth o deithwyr am dâl / budd, naill ai wedi'i logi ar safle, ei stopio ar y stryd neu ei archebu drwy weithredwr.
start content

Mae ein proses ar-lein newydd yn gwneud ymgeisio ac adnewyddu’n gyflymach ac yn haws. Fel rhan o foderneiddio parhaus o’n gwasanaeth trwyddedu.

Mae trwydded Cerbyd Hacni yn ddilys am gyfnod o 12 mis. Rhaid i’r gyrrwr a’r cerbyd gael ei drwyddedu gan yr un awdurdod a pharth Cerbyd Hacni. Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dri pharth Cerbyd Hacni; Conwy Wledig, Llandudno a Cholwyn.

Sut i wneud cais

Rhaid i ymgeiswyr sicrhau fod y cerbyd yn cydymffurfio ag Amodau Trwyddedu Hurio Preifat, a chael ei brofi gan orsaf brofi wedi’i hawdurdodi gan CBSC ac wedi cael Tystysgrif Cydymffurfiaeth.

Dylai Cerbyd gael y dogfennau yswiriant cywir sy’n nodi’n glir bod y cerbyd wedi’i yswirio ar gyfer “hurio am dâl” neu “geisio hurio allan”.

Darllenwch y wybodaeth ychwanegol ganlynol

Polisi Hysbysebu (PDF)

Polisi Manyleb Cerbydau (PDF)

Is-Ddeddfau Cerbydau Hacni (PDF)

Cerdyn Ffioedd Cerbyd Hacni (PDF)

Rhestr o Orsafoedd Profi Cymeradwy (PDF)

I lenwi’r ffurflen gais ar-lein, bydd arnoch chi angen y dogfennau digidol canlynol. 

Bydd angen y canlynol arnoch:  

  • Dogfennau Yswiriant
  • Prawf Tystysgrif Cydymffurfiaeth
  • Tystysgrif Cerbyd(au) V5
  • Enw, cyfeiriad a rhif ffôn y Gweithredwr Hurio Preifat
  • Ffi o £239


Cysylltwch â'r Swyddfa Drwyddedu os ydych yn ansicr a fyddai eich cerbyd yn cael ei drwyddedu. Mae gan y Cyngor yr hawl i ganiatáu neu wrthod y drwydded. Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o benderfyniad eu cais yn ysgrifenedig, o fewn 14 diwrnod o wneud y penderfyniad.

Cerdyn Tariff Newydd

Fe fydd y cerdyn tariff newydd yn dod i rym ar 18 Chwefror 2022, ac mae’n rhaid ail-galibro pob mesurydd talu i’r prisiau newydd erbyn 1 Mawrth 2022 fan bellaf.

Mae’n rhaid arddangos y cerdyn prisiau drwy’r amser mewn cerbydau hacni neu gerbydau hurio preifat sydd â mesurydd talu.

Mae’n rhaid arddangos y cerdyn prisiau mewn man amlwg lle gall y cyhoedd ei weld ar unrhyw adeg.

Ni ddylid newid fformat y cerdyn prisiau sydd ar ddangos (heblaw am ei wneud yn fwy).

Os byddwch chi’n dewis peidio calibro eich mesurydd talu i’r pris uchafswm a ganiateir, rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Drwyddedu yn ysgrifenedig beth yw’r pris yr hoffech ei godi o fewn saith niwrnod ar ôl derbyn yr hysbysiad hwn. Rhaid i chi hefyd arddangos y pris yr hoffech ei godi mewn fformat tebyg mewn man amlwg lle gall y cyhoedd ei weld ar unrhyw adeg.

Cerdyn Tocyn Cerbyd Hacni (PDF, 148KB)



Ffioedd

Trwydded Cerbyd Hurio PreifatFfi

Caniatâd a plat

£239.00

Adnewyddu

£195.00

Newid Perchennog

£102.00

Trosglwyddo Cerbyd Hurio Preifat

£239.00

Disodli Plât x1

£32.00

Plât Tu Mewn

£20.00



Mae gan y Cyngor yr hawl i ganiatáu neu wrthod y drwydded.

Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o benderfyniad eu cais yn ysgrifenedig, o fewn 14 diwrnod o wneud y penderfyniad.


Gwybodaeth ddefnyddiol 

Bydd y prawf Tystysgrif o Gydymffurfiaeth o safon MOT ynghyd â gwiriadau ychwanegol. Rhaid iddo gael ei wneud bob chwe mis, a gan fod y Cyngor wedi gwneud cais am eithriad gan y Weinyddiaeth Drafnidiaeth, nid oes angen i ddeiliad Trwydded Cerbyd Hacni a Thystysgrif o Gydymffurfiaeth gael y cerbyd wedi’i brofi ar wahân ar gyfer MOT.

Dylai adroddiad y prawf gael ei gwblhau a'i lofnodi gan yr arolygydd /peiriannydd. Dylai hwn wedyn gael ei ddychwelyd i'r Swyddfa Drwyddedu.

Deddfwriaeth ac Amodau

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976

Prosesu ac Amserlenni

Ar ôl talu’r ffi a chyflwyno’r holl ddogfennau cysylltiedig, gall gymryd hyd at 28 diwrnod i gynhyrchu’r drwydded.

Dulliau Apelio / Unioni:

Byddai'r ymgeisydd yn gallu apelio unrhyw benderfyniad trwy gyfrwng cwyn i'r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am benderfyniad y Cyngor.

Manylion Cyswllt:

end content