Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cerbyd Hurio Preifat - Grant


Summary (optional)
start content

Mae ein proses ar-lein newydd yn gwneud ymgeisio ac adnewyddu’n gyflymach ac yn haws. Fel rhan o foderneiddio parhaus o’n gwasanaeth trwyddedu.

Mae trwydded Hurio Preifat yn ddilys am gyfnod o 12 mis. Rhaid i’r gyrrwr, Gweithredwr a’r cerbyd gael ei drwyddedu gan yr un awdurdod.

Sut i wneud cais

Rhaid i ymgeiswyr sicrhau fod y cerbyd yn cydymffurfio ag Amodau Trwyddedu Hurio Preifat, a chael ei brofi gan orsaf brofi wedi’i hawdurdodi gan CBSC ac wedi cael Tystysgrif Cydymffurfiaeth.

Dylai Cerbyd gael y dogfennau yswiriant cywir sy’n nodi’n glir bod y cerbyd wedi’i yswirio ar gyfer “hurio am dâl” neu “geisio hurio allan”.

Darllenwch y wybodaeth ychwanegol ganlynol:

Polisi Hysbysebu (PDF)

Amodau Trwyddedu Hurio Preifat (PDF)

Polisi Cerbyd Uwchraddol Esemptiad Plât Cerbyd 2021 (PDF)

I lenwi’r ffurflen gais ar-lein, bydd arnoch chi angen y dogfennau digidol canlynol.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • Dogfennau Yswiriant
  • Prawf Tystysgrif Cydymffurfiaeth
  • Tystysgrif Cerbyd(au)
  • Enw, cyfeiriad a rhif ffôn y Gweithredwr Hurio Preifat
  • Ffi o £224

Cysylltwch â'r Swyddfa Drwyddedu os ydych yn ansicr a fyddai eich cerbyd yn cael ei drwyddedu. Mae gan y Cyngor yr hawl i ganiatáu neu wrthod y drwydded. Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o benderfyniad eu cais yn ysgrifenedig, o fewn 14 diwrnod o wneud y penderfyniad.

Ffioedd

Trwydded Cerbyd Hurio PreifatFfi

Caniatâd

£224.00

Adnewyddu

£183.00

Newid Perchennog

£93.00

Trosglwyddo Cerbyd Hurio Preifat

£294.00

Disodli Plât x1

£32.00

Plât Tu Mewn

£20.00

Disodli Arwyddion Drws x1

£32.00

Disodli Arwyddion Drws x2

£51.00

 

Mae gan y Cyngor yr hawl i ganiatáu neu wrthod y drwydded.

Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o benderfyniad eu cais yn ysgrifenedig, o fewn 14 diwrnod o wneud y penderfyniad.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Bydd y prawf Tystysgrif o Gydymffurfiaeth o safon MOT ynghyd â gwiriadau ychwanegol. Rhaid iddo gael ei wneud bob chwe mis, a gan fod y Cyngor wedi gwneud cais am eithriad gan y Weinyddiaeth Drafnidiaeth, nid oes angen i ddeiliad Trwydded Cerbyd Hacni a Thystysgrif o Gydymffurfiaeth gael y cerbyd wedi’i brofi ar wahân ar gyfer MOT.

Dylai adroddiad y prawf gael ei gwblhau a'i lofnodi gan yr arolygydd /peiriannydd. Dylai hwn wedyn gael ei ddychwelyd i'r Swyddfa Drwyddedu.

Deddfwriaeth ac Amodau

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976

Prosesu ac Amserlenni

Unwaith y bydd y ffi wedi'i thalu a’r holl ddogfennaeth gysylltiedig yn cael eu cyflwyno i bolisi, gellir cymryd hyd at 28 diwrnod i gyhoeddi'r drwydded.

Dulliau Apêl / Gwneud Iawn:

Byddai'r ymgeisydd yn gallu apelio unrhyw benderfyniad trwy gyfrwng cwyn i'r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am benderfyniad y Cyngor.

Gwybodaeth atodol

Rhestr o Orsafoedd Profi COC Cymeradwy (PDF)

Manylion Cyswllt:

Drwy'r post: Adain Drwyddedu, Blwch Postio 1, Conwy LL30 9GN

Dros y ffôn: 01492 576626

Drwy e-bost: trwyddedu@conwy.gov.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content