Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Marchnadoedd a Digwyddiadau Trefnu digwyddiad yn Sir Conwy Gwybodaeth am ddigwyddiadau a cheisio am drwydded

Gwybodaeth am ddigwyddiadau a cheisio am drwydded


Summary (optional)
Digwyddiadau ar bromenadau, traethau a blaendraethau’r awdurdod.
start content

Nodiadau i Ymgeiswyr

1. CYFFREDINOL

Cyhoeddwyd y nodiadau hyn fel gwybodaeth a chanllawiau i fudiadau neu unigolion sy'n gwneud cais am ganiatâd i gynnal digwyddiadau ar bromenadau'r Awdurdod traethau neu flaen traethau.

2. CEISIADAU AR GYFER DIGWYDDIADAU

Mae'n rhaid gwneud cais i gynnal digwyddiadau trwy lenwi cymaint a bo modd ar y ffurflen ar gyfer hyn.  Fel arfer, dylid cyflwyno ffurflenni cais 21 diwrnod o flaen dyddiad dechrau'r digwyddiad.
Ar gyfer digwyddiadau yng Nghei Conwy, cysylltwch â’r Harbwrfeistr yn uniongyrchol  harbwr.conwy.harbour@conwy.gov.uk

3. GWYBODAETH I GEFNOGI'R CAIS

a) Mae'n rhaid cynnwys y canlynol gyda phob cais:

i) Tystiolaeth bod gennych lefel yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac sydd o leiaf £5 miliwn.

ii) Ffurflen asesu risg wedi ei chwblhau.

iii) Cynllun o safle'r digwyddiad.

b) Bydd angen y drwydded /caniatâd a ganlyn gyda rhai ceisiadau:

i) Copi o ganiatâd casglu ar y stryd ar gyfer y digwyddiad.

ii) Copi o drwydded benodol a roddwyd ar gyfer y digwyddiad.

4. NODIADAU CYFYNGU AR DDIGWYDDIADAU 

a) Efallai bydd angen trwydded digwyddiadau penodol dros dro oddi wrth Adran Trwyddedu'r Awdurdod ar gyfer rhai digwyddiadau. Byddwn yn rhoi gwybod i drefnwyr os yw hyn yn berthnasol.

b) Efallai bydd angen caniatâd i gasglu ar y stryd ar gyfer digwyddiadau sy'n casglu arian gan y cyhoedd. Adran Trwyddedu'r Awdurdod fydd yn rhoi'r caniatâd hwn. Byddwn yn rhoi gwybod i drefnwyr os yw hyn yn berthnasol.

c) Cyfyngir ar nifer y digwyddiadau sy'n cael eu trefnu gan fudiadau elusengar i ddim mwy nag un y mis.

d) Cyfyngir ar ddigwyddiadau sy'n cael eu trefnu gan grwpiau crefyddol i ddim mwy nag un digwyddiad y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener a dau ddigwyddiad dydd Sul.

Cyfyngir ar archebu nifer o ddigwyddiadau crefyddol i uchafswm o un digwyddiad y sefydliad bob 14 diwrnod.

Sylwer:-  Mae grwpiau crefyddol sy'n darparu adloniant, yn hytrach na gwasanaeth crefyddol, wedi'u heithrio o'r cyfyngiadau hyn.

5. ADLONIANT

Os yw'r digwyddiadau sydd i'w cynnal ar gyfer difyrru'r cyhoedd, dylid cael diddanwyr i berfformio. Ni chaniateir adloniant wedi ei recordio.

6. MYNEDIAD

Ni chaniateir i ddigwyddiadau rwystro na chyfyngu ar fynediad i:

a) lwybr bad achub yr RNLI na'r llithrfa (Promenâd Traeth y Gogledd, Llandudno)

b) Unrhyw lanfa, llithrfa neu risiau mynediad i'r traeth.

c) gerbydau'r Gwasanaethau Brys.

7. IS-DDEDDFAU PROMENÂD TRAETH Y GOGLEDD LLANDUDNO

Mae'n rhaid i drefnwyr digwyddiadau nodi fod yr Is-ddeddfau a ganlyn yn gosod cyfyngiadau ar:

  • Godi pyst, rheiliau a ffensys, ac yn y blaen *Gweler Nodyn 1.
  • Gwerthu a Phedlera.  *Gweler Nodyn 1.
  • Perfformiadau, ac yn y blaen.  *Gweler Nodyn 1.
  • Begera, pedlera, ac yn y blaen.
  • Tryciau, peiriannau a cherbydau.  *Gweler Nodyn 1
  • Gemau.  *  Gweler Nodyn 1.
  • Setiau Radio, gramoffonau, offer sain, ac yn y blaen.
  • Marchogaeth a Gyrru.

*  Nodyn 1 :-  Ystyrir caniatáu'r gweithgareddau hyn mewn ceisiadau ar gyfer digwyddiadau, yn amodol ar ofynion penodol ac amgylchiadau'r digwyddiad.

*  Nodyn 2 :-  Mae copïau llawn o'r Is-ddeddfau ar gael ar gais.

Cais am Drwydded Digwyddiad ar yr Arfordir (Ffurflen Electronig)

Cais am Drwydded Digwyddiad ar yr Arfordir (Ffurfen Brint yn unig)

end content