Cefnogir Rhaglen Twf a Gwytnwch Busnes Conwy gan y Gronfa Twf Lleol, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU ac sy'n cael ei rheoli yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.
Mae Rhaglen Twf a Gwydnwch Busnes Conwy wedi’i ddatblygu i gefnogi busnesau lleol i:
- Cynyddu cynhyrchiant a chystadleuydd
- Buddsoddi mewn twf busnes ac arloesedd
- Mabwysiadu technolegau newydd ac atebion digidol
- Gwella sgiliau’r gweithlu
- Cryfhau gwydnwch busnes
- Buddsoddi mewn prosiectau carbon isel a datgarboneiddio
- Creu a diogelu cyfleoedd cyflogaeth
Mae cyllid ar gael tuag at brosiectau gwariant cyfalaf cymwys a phrosiectau gwariant refeniw dethol sy'n cyfrannu at un neu ragor o flaenoriaethau'r Gronfa Twf Lleol, fel y nodir yn y canllawiau llawn.
Mae’r cynllun wedi’i anelu at fentrau micro, bach a chanolig (sy’n cyflogi hyd at 250 o bobl) sydd naill ai â throsiant o lai na €50 miliwn neu fantolen o lai na €43 miliwn.
Cymorth grant ar gael:
- Grantiau rhwng £3,000 a £50,000
- Hyd at gyfradd ymyrraeth o 70%
- Isafswm cyfraniad ymgeisydd o 30%
- Cynllun grant dewisol cystadleuol
- Mae’r cyllid yn amodol ar gyllideb sydd ar gael a chymeradwyaeth y Panel Adolygu Grantiau
- Rhaid cwblhau prosiectau a chyflwyno hawliadau erbyn y dyddiad a nodir yn y llythyr cynnig grant.
Mae’r cynllun grant hwn yn un dewisol a bydd yn cael ei weithredu ar sail y cyntaf i’r felin, yn dibynnu ar argaeledd y cyllid a chwblhau’r prosiect o fewn y cyfnod penodedig.
Bydd y grant yn cau i geisiadau pan fydd yr holl gyllid wedi’i ddyrannu neu pan fydd dim amser ar ôl i brosiectau gael eu cwblhau cyn dyddiad cau’r rhaglen.
Bydd ceisiadau’n cael eu cyflwyno drwy’r ffurflen ar-lein. Ynghyd â’r ffurflen gais, bydd angen darparu nifer o ddogfennau ategol a gwybodaeth berthnasol.
Darllenwch y ddogfen ganllaw yn llawn er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth a’r dogfennau gofynnol wedi’u cynnwys cyn cyflwyno’r cais.
Gwybodaeth ategol:
Ni fydd ceisiadau yn cael eu hystyried wedi’u cyflwyno’n llawn hyd nes bydd yr holl wybodaeth ofynnol wedi’i derbyn.
Gofynnwn i chi siarad ag aelod o’r Tîm Cymorth Busnes cyn cyflwyno unrhyw gais. I drefnu i siarad ag aelod o’r tîm, anfonwch e-bost at business@conwy.gov.uk.

Cefnogir Rhaglen Twf a Gwytnwch Busnes Conwy gan y Gronfa Twf Lleol, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU ac sy'n cael ei rheoli yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.