Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog o raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y Du ac yn darparu £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn Mawrth 2025. Mae’r Gronfa’n anelu at wella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU drwy fuddsoddi mewn cymunedau a llefydd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â: https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus
Byddai’r gronfa yn cefnogi ein busnesau (masnachol neu gymdeithasol) lleol i adnewyddu a datblygu ar gyfer y dyfodol.
Bydd y gronfa allweddol yn galluogi darpariaeth grantiau mwy i gefnogi twf economaidd a chynaliadwyedd drwy gyflawni ystod o brosiectau yn canolbwyntio ar ymyriadau a ddiffinnir gan y DU.
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cymorth buddsoddi, mae’n rhaid i fusnesau gael eu lleoli yn Sir Conwy, wedi bod yn masnachu dros 6 mis ac wedi cofrestru gyda CaThEF.
Mae'r cynllun yn cynnig cyllid o HYD AT 70% ar wariant cyfalaf a/neu refeniw cymwys ar gyfer prosiectau, gyda dyfarniadau o £3,000 hyd at £100,000 yn cael eu cynnig.
Caiff y gronfa hon ei gweinyddu ar sail cyntaf i’r felin.
Ni ystyrir fod ceisiadau wedi eu cyflwyno’n llawn hyd nes bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen wedi ei derbyn.
Er mwyn cael ei ystyried, fe ddylai eich prosiect gyd-fynd ag un neu fwy o’r ymyriadau diffiniedig a chyflawni un neu fwy o’r allbynnau a chanlyniadau canlynol:
- Creu swyddi
- Diogelu swyddi
- Cyflwyno prosesau neu dechnolegau newydd i’r cwmni
- Cynhyrchiant gwell
- Cynnydd o ran buddsoddiad
- Prosiectau yn deillio o astudiaethau dichonoldeb wedi’u hariannu
- Pobl yn mynychu hyfforddiant
- Isadeiledd ynni carbon isel neu sero wedi’i ddarparu
- Cynyddu cystadleurwydd
- Cynorthwyo twf busnes
- Gwneud enillion effeithlonrwydd
- Cynyddu cynaliadwyedd
- Cyflwyno cynnyrch, gwasanaethau neu farchnadoedd newydd i’r cwmni
- Canolbwyntio ar ddatgarboneiddio a’r argyfwng hinsawdd
Bydd ceisiadau'n cael eu gwneud drwy’r ffurflen ar-lein. Ynghyd â’r ffurflen gais bydd angen nifer o ddogfennau ategol eraill.
Darllenwch y ddogfen ganllaw yn llawn i sicrhau bod yr holl wybodaeth ynghlwm cyn cyflwyno’r cais.
Gofynnir i chi siarad ag aelod o’r Tîm Cymorth Busnes cyn cyflwyno unrhyw gais. I siarad ag aelod o’r tîm, anfonwch neges e-bost at busnes@conwy.gov.uk.
Byddwch yn ymwybodol fod y cronfeydd sydd ar gael nawr yn gyfyngedig iawn ac felly ni ellir sicrhau cyllid ar gyfer yr holl geisiadau a dderbynnir.