Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau


Summary (optional)
start content

Mae Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau Conwy UKSPF ar agor.

Bydd dyddiad cau ceisiadau am grant ym mis Ionawr 2024 neu ar amser lle fydd y gronfa wedi’i ymrwymo’n gyfan gwbl, os yw’n gynt.

Mae’r Gronfa Allweddol Pobl a Sgiliau yn gyfle cyffrous i sefydliadau gynnal prosiectau ledled Conwy a fydd yn cyfrannu at ymyriadau Pobl a Sgiliau a Lluosi (rhifedd oedolion) Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU.

Gall y Gronfa Allweddol gefnogi ceisiadau am grantiau rhwng £50,000 a £249,999.

Gall sefydliadau wneud cais am gyllid i:

  • Helpu i leihau'r rhwystrau y mae rhai pobl yn eu hwynebu i gyflogaeth a'u cefnogi i symud tuag at gyflogaeth ac addysg.
  • Cefnogi datblygiad sgiliau, cyflogaeth a thwf lleol yn seiliedig ar yr anghenion a nodwyd yn Sir Conwy.
  • Helpu i drawsnewid bywydau oedolion drwy wella eu sgiliau rhifedd (Lluosi).

Mae hon yn alwad agored ar gyfer prosiectau sy'n cyflawni yn Sir Conwy.

Gall prosiectau wneud cais am grantiau rhwng £50,000 a £249,999 a rhaid eu cwblhau erbyn hydref 2024.

Gellir cyflwyno ceisiadau o ddydd Llun 6 Tachwedd 2023 tan ddydd Llun 29 Ionawr 2024.

content

content

 

Sut i wneud cais

Gellir gwneud ceisiadau i’r Gronfa Allweddol Adfywio Cymunedol drwy’r porth ar-lein.

Mae’n rhaid i chi gwblhau ac uwchlwytho’r ‘Gweithlyfr Costau Prosiect a Chynllunio’ fel rhan o’ch cais ar-lein - mae hwn i’w weld isod.

Cyn cyflwyno’ch cais:

Dogfennau

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Diffiniadau o Allbynnau a Chanlyniadau (Llywodraeth y DU)

Dogfennau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost atom yn peopleandskillskeyfund@conwy.gov.uk.

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

levelup-logos-e

end content