Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Gwybodaeth Cyllid Sut rydym yn gwario arian

Sut rydym yn gwario arian


Summary (optional)
Trosolwg byr o faint rydym yn ei wario a sut
start content

Mae arnom eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sut mae’r Cyngor yn gwario arian.

Bob blwyddyn, mae’n rhaid i ni fantoli’r gyllideb - dyna’r gyfraith. Mae hyn yn mynd yn anoddach oherwydd bod llawer o bethau’n effeithio ar faint o arian sydd gennym. Mae’r dudalen hon yn egluro o ble mae ein harian yn dod a sut rydym yn ei wario, fel ei fod yn haws ei ddeall.

 

Sut ydym ni’n gwario Treth y Cyngor?

Rydym ni’n gyfrifol am gasglu Treth y Cyngor oddi wrth breswylwyr i helpu i dalu am waith y cynghorau lleol a’r gwasanaethau brys.

Mae Treth y Cyngor yn dreth sy’n seiliedig ar eiddo ac yn daladwy ar bob eiddo domestig. Bydd pob eiddo yn derbyn un bil Treth y Cyngor, ac fel rheol y bobl sy’n berchen ar neu’n byw yn yr eiddo fydd yn gyfrifol am ei dalu.

Mae’r Dreth y Cyngor rydych chi’n ei dalu yn cael ei rannu rhwng y Cyngor Sir, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a’r Cyngor tref neu Gymuned.

 

Mae’r taflenni canlynol yn egluro sut caiff eich Treth y Cyngor ei wario

 

Chwalu'r Camsyniadau

Sut Rydym yn cael ein cyllido

Oeddech chi’n gwybod? Mae tua 70% o’n cyllideb yn dod gan Lywodraeth Cymru, a dim ond 30% sy’n dod o Dreth y Cyngor. Byddwn yn aml yn clywed y myth bod Treth y Cyngor yn talu am bopeth a wnawn, ond nid yw hynny’n wir. Mae’r rhan fwyaf o’n cyllid yn dod gan Lywodraeth Cymru i’n helpu i ddarparu gwasanaethau hanfodol ar draws Conwy.




Cynghorwyr

Oeddech chi’n gwybod? NID yw nifer y Cynghorwyr yn cael ei bennu gennym ni, mae’n cael ei bennu’n allanol. Yn 2022, gostyngodd nifer y Cynghorwyr sy’n gwasanaethu Conwy o 59 i 55 fel rhan o adolygiad cenedlaethol.




Rydym ni’n rhan o’r gymuned

Oeddech chi’n gwybod? Mae tua 60% o’n gweithlu yn gweithio allan yn eich cymuned bob dydd. O gasglu gwastraff i gynnal a chadw priffyrdd i ofal cymdeithasol a chymorth cymunedol, mae ein timoedd allan yn y llefydd sy’n bwysig.




Gwahanol gyllidebau ar gyfer gwahanol bethau

Oeddech chi’n gwybod? Rydym yn aml yn derbyn grantiau ar gyfer prosiectau penodol, a phan fydd hyn yn digwydd, rhaid i’r arian gael ei wario yn union fel y cytunwyd. Mae hyn yn golygu nad allwn drosglwyddo’r arian hwnnw i dalu am wasanaethau neu brosiectau eraill.




Cyflogau staff

Oeddech chi’n gwybod? Mae dyfarniadau cyflog chwyddiant ar gyfer staff y cyngor yn cael eu cytuno’n genedlaethol, nid yn lleol. Mae hyn y golygu bod lefelau cyflog yn cael eu trafod ar lefel y DU neu Gymru gyfan, drwy gymdeithasau cyflogwyr ac undebau llafur - nid Cyngor Conwy.




Bwlch yn y cyllid cenedlaethol

Mae prisiau’n cynyddu ac mae ar fwy o bobl angen ein gwasanaethau, ond nid yw’r cyllid a ddarperir gan y Llywodraeth yn cynyddu’n unol â’r gwasgfeydd hynny. Mae hyn yn creu bwlch yn y cyllid cenedlaethol. Er mwyn cynnal gwasanaethau hanfodol, rhaid i ni bontio’r bwlch trwy Dreth y Cyngor, cynyddu ffioedd neu leihau gwasanaethau.




Ar beth mae ein cyllideb yn cael ei wario

Mae mwyafrif o’n cyllideb yn cael ei gwario ar addysg a gofal cymdeithasol - gan helpu i gefnogi ysgolion, plant, teuluoedd ac oedolion diamddiffyn yn ein cymunedau. Mae’r gwasanaethau hyn yn gyfran fawr o’n gwariant, gan sicrhau fod ein cymunedau yn cael y gofal a’r cyfleoedd sydd arnynt eu hangen.




 

end content