Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Gwybodaeth Cyllid Pam bod y Cyngor yn wynebu diffyg yn y gyllideb?

Pam bod y Cyngor yn wynebu diffyg yn y gyllideb?


Summary (optional)
start content

Fel pob Cyngor arall yng Nghymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn wynebu pwysau cyllidebol parhaus ac angen gwneud arbedion pellach i bennu cyllideb gytbwys ar gyfer 2026-27. Y bwlch yn y gyllideb ar gyfer 2026-27, cyn rhoi unrhyw gyllid, yw £204 miliwn oherwydd costau cynyddol nwyddau a gwasanaethau.

Mae tua 70% o gyllid y Cyngor yn dod gan Lywodraeth Cymru. Derbyniom hysbysiad o’n setliad drafft llywodraeth leol ddiwedd mis Tachwedd, a oedd yn cadarnhau cynnydd o 2.3%. Ynghyd â throsglwyddiadau eraill i’r gyllideb, roedd hyn yn gyfystyr â £6.3 miliwn o gyllid ychwanegol i Gonwy.

Ar 11 Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid pellach i bob Cyngor, a fydd yn cynyddu ein dyraniad ar gyfer 2026/27 i 4.1%. Mae hyn yn ddatblygiad cadarnhaol, ac ynghyd â’r addasiadau eraill, mae’n cynyddu ein cyllid ychwanegol ar gyfer 2026/27 i £10.9 miliwn. Fodd bynnag, 4.1% yw’r cynnydd canrannol isaf i unrhyw Gyngor yng Nghymru.

Er ein bod yn croesawu’r cyllid ychwanegol angenrheidiol hwn, mae Conwy’n parhau i wynebu pwysau ariannol sylweddol i fodloni gofynion gwasanaethau. Ni fydd y swm hwn yn ddigon i gau’r bwlch cyllid a bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd i fantoli’r gyllideb.

Rhesymau dros y diffyg yn y gyllideb:

  • Galw cynyddol am wasanaethau: Mae’r argyfwng costau byw a phwysau ar y GIG wedi cynyddu’r galw am wasanaethau. Mae mwy o bobl yn troi at Gyngor Conwy i gael cefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth i blant ac oedolion diamddiffyn, yn ogystal â gwasanaethau tai a digartrefedd. Mae llawer o’n gwasanaethau yn ‘statudol’, sy’n golygu bod gennym ddyletswydd gyfreithiol i’w darparu ac ni allwn droi pobl i ffwrdd gan nad oes gennym unrhyw gyllid yn weddill. Amcangyfrifir bod cost ychwanegol y cynnydd hwn yn y galw yn £14 miliwn ar gyfer 2026-27.
  • Pwysau o ran cyflogau: Mae dyfarniadau cyflog i athrawon, gweithwyr y Cyngor a gweithwyr gofal yn cael eu trafod yn genedlaethol. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i staff ar gyflogau is. Mae pwysau sy’n ymwneud â chyflogau yn cyfrif am dros £7.6 miliwn o’r diffyg yn y gyllideb.
  • Chwyddiant cyffredinol: Er bod chwyddiant wedi gostwng o’i anterth o dros 11% ym mis Hydref 2022, mae’n dal yn uchel mewn rhai ardaloedd ac yn parhau i godi cost gwasanaethau. Mae chwyddiant prisiau cyffredinol yn gyfrifol am tua £2.7 miliwn o’r pwysau.
  • Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: Mae Conwy, ynghyd â chynghorau eraill Gogledd Cymru, yn ariannu’r Gwasanaeth Tân. Mae’r Awdurdod Tân yn bwriadu cynyddu ei ardoll oherwydd y costau cynyddol, gan ychwanegu at bwysau cyllidebol Conwy. Mae bob cynnydd o 1% yn yr ardoll yn costio oddeutu £85,000 yn ychwanegol.

Mynd i’r Afael â’r Diffyg:

Rydym yn deall y pwysau ariannol y mae pawb yn eu hwynebu. Bydd sut ydym yn bodloni’r bwlch yn y gyllideb yn dibynnu ar gyllid gan Lywodraeth Cymru, cynhyrchu incwm ychwanegol, lleihau’r galw am wasanaethau, toriadau gwariant pellach a chynnydd posibl yn Nhreth y Cyngor.

Tair ffordd o fynd i’r afael â’r diffyg:

  1. Newidiadau gwasanaeth: Dros y tair blynedd ar ddeg ddiwethaf, mae Conwy wedi gwneud arbedion gwerth £94 miliwn yn y gyllideb drwy adolygu gwasanaethau a symleiddio prosesau. Mae Cyngor Conwy yn ymroddedig i amddiffyn gwasanaethau hanfodol ac o ganlyniad, mae dod o hyd i arbedion pellach yn dod yn fwyfwy anodd i’w canfod. Mae ymdrechion yn cynnwys lleihau costau trwy ddefnyddio technoleg, lleihau nifer yr adeiladau a gwneud newidiadau pellach i wasanaethau.
  2. Treth y Cyngor: Disgwylir y bydd pob 1% o gynnydd yn Nhreth y Cyngor yn codi £866,000 yn ychwanegol ac yn cynyddu treth eiddo Band D o £18.88 y flwyddyn (36c yr wythnos). Nid yw’n bosibl cau’r bwlch yn y gyllideb drwy ddefnyddio Treth y Cyngor yn unig. Er bod hanes o gadw Treth y Cyngor yn gymharol isel, mae cynnydd yn anochel o ystyried y pwysau presennol. Ni fydd cynnydd yn cael gwared ar yr angen am leihau gwasanaethau.
  3. Cronfeydd wrth Gefn: Mae’n rhaid i Gyngor Conwy fod yn ofalus tra’n dewis defnyddio cronfeydd wrth gefn. Nid oes gan Gonwy lawer o gronfeydd wrth gefn, ac mae nifer wedi’u dynodi at ddibenion pwrpasol. Ni ddylid byth defnyddio cronfeydd wrth gefn i ariannu gwariant cylchol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Unwaith y mae wedi mynd, mae’r diffyg ariannol dal yno, ac mae gwytnwch ariannol y Cyngor wedi’i leihau’n barhaol. Mae Cyngor Conwy angen digon o gronfeydd wrth gefn ar gyfer argyfyngau, megis Storm Claudia. Ar hyn o bryd, mae gan Gyngor Conwy £15 miliwn yn ei gronfeydd wrth gefn cyffredinol, sef 5% yn unig o’r gyllideb. Byddai defnyddio cronfeydd wrth gefn i gydbwyso cyllideb 2026-27 yn creu pwysau ariannol ychwanegol yn y blynyddoedd i ddod.

Os ydych chi eisiau gwybod sut ydym ni’n rheoli’r gyllideb mewn mwy o fanylder, darllenwch yr adroddiadau isod:

Datganiad Cyfrifon: Datganiad Cyfrifon Blynyddol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Datganiad ar y Polisi Tâl: Datganiad Polisi Tâl - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Taflen Treth y Cyngor: Taflen Treth y Cyngor 2025-26

end content