Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Dweud eich dweud Ymgynghoriadau Ymgynghoriadau'r Gorffennol Adborth ar yr Ymgynghoriad Creu Conwy, Tanio'r Fflam - Strategaeth Ddiwylliant ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy, 2021-2026.

Adborth ar yr Ymgynghoriad Creu Conwy, Tanio'r Fflam - Strategaeth Ddiwylliant ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy, 2021-2026.


Summary (optional)
Rhwng 2 Awst a 17 Awst fe wnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar fersiwn drafft Creu Conwy, Tanio’r Fflam - Strategaeth Ddiwylliant ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 2021 - 2026.
start content

Roedd 185 o ymatebion i’r arolwg holiadur. Roedd mwyafrif helaeth yr ymatebwyr yn cefnogi pob un o amcanion allweddol y strategaeth;

  • Bydd y gweithgareddau diwylliannol a ddatblygwn ‘yn anturus, yn chwareus ac yn gysylltiol’ (89.7% yn cefnogi)
  • Byddwn yn creu ‘Sbardunau’ diwylliannol yn ein trefi mwyaf, a fydd yn gweithredu fel canolbwyntiau adfywio er budd yr ardaloedd cyfagos (90.2% yn cefnogi)
  • Byddwn yn sefydlu ‘Timau Trefi’ creadigol i gymryd perchnogaeth prosiectau diwylliannol ar lefel gymunedol (88.5% yn cefnogi)
  • Byddwn yn gwneud diwylliant yn hygyrch i bawb, ac yn rhan fawr o fywyd bob dydd yng Nghonwy (95.7% yn cefnogi)
  • Bydd ymwelwyr i Gonwy yn cael eu syfrdanu gan ddiwylliant Conwy (91.8% yn cefnogi)
  • Mae cynnig diwylliannol Conwy yn unigryw ac ar flaen y gad (82.5% yn cefnogi)

Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnig y dewis i ymatebwyr ychwanegu eu sylwadau ‘testun rhydd’ eu hunain a chyflwynwyd 156 o sylwadau yn yr adran hon.

Dyma oedd y prif bwyntiau:

  • Yr angen i gael model twristiaeth gynaliadwy a pharchus sydd ddim yn effeithio’n negyddol ar amgylchedd, iaith na chymunedau Conwy, yn cynnwys pryderon am effaith twristiaeth ddiwylliannol ar newid hinsawdd. 
  • Pwysig sicrhau bod cymunedau’n cael gwir fewnbwn a’u bod yn gallu arwain prosiectau, gyda chefnogaeth gan yr arbenigwyr cywir o’r diwydiannau diwylliannol.
  • Pwysigrwydd yr iaith Gymraeg, ond hefyd yr angen i gyflwyno traddodiadau diwylliannol eraill a grwpiau/ieithoedd lleiafrifol yn ogystal â sicrhau bod gweithgareddau’n hygyrch i’r rhai sydd o bosib angen cymorth ychwanegol i gymryd rhan.
  • Yr angen i sicrhau bod y model Sbarduno yn gwireddu’r manteision ar gyfer cymunedau a threfi llai cyfagos.
  • Y meysydd a nodwyd fel rhai sy’n atal llwyddiant yw diffyg cludiant (yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a chyda’r nos) a diffyg isadeiledd cymunedol a’r adnoddau i ddarparu.

Roedd y meysydd mwyaf poblogaidd ar gyfer datblygu prosiectau’n ymwneud â:

  • Pherfformiadau yn yr awyr agored
  • Hyrwyddo a datblygu sioeau a gwyliau amaethyddol mewn ffordd gydgysylltiedig
  • Y Gymraeg
  • Pobl ifanc a phrosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau
  • Llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol
  • Prosiectau sy’n archwilio diwylliannau eraill a dathlu amrywiaeth ddiwylliannol yn y wlad hon ac yn rhyngwladol,
  • Nosweithiau cerddoriaeth a chomedi
  • Cysylltiadau â gwyddoniaeth a daeareg
  • Prosiectau amgylcheddol / trefi gwyrdd
  • Diwydiannau creadigol a digidol
  • Cefnogi’r sector llawrydd
  • Cefnogi a hyrwyddo talent a chynnyrch lleol
  • Prosiectau sy’n canolbwyntio ar y dirwedd – teithiau cerdded, sgyrsiau a theithiau tywys
  • Tywyswyr / llysgenhadon diwylliannol

Fe hoffem ddiolch i bawb a ymatebodd. Yn dilyn y newidiadau a wnaed ar ôl yr ymgynghoriad cyhoeddus, cymeradwywyd y Strategaeth gan Gabinet Conwy ar 23 Tachwedd 2021.

Gellir darllen fersiwn derfynol y Strategaeth yn Creu Conwy – Tanio’r Fflam, Strategaeth Ddiwylliant ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 2021-2026 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.


Rŵan, bydd cynlluniau gweithredu manwl yn cael eu llunio a bydd prosiectau’n cael eu blaenoriaethu, eu datblygu a’u cyflwyno dros y pum mlynedd nesaf.

end content