Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben.
Diolch i bawb a dreuliodd amser yn rhannu eich barn. Bydd yr holl adborth yn cael ei ystyried cyn i’r Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd ddrafft fynd ymlaen i gael ei chymeradwyo gan y Cyngor cyn ei chyhoeddi’n derfynol.
Bydd rhagor o wybodaeth a diweddariadau’n cael eu cyhoeddi ar: Cynnwys y Gymuned.
Rydym yn diweddaru ein Strategaeth Ymgysylltu â’r Gymuned gydag elfennau ychwanegol i fodloni gofynion newydd dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae’r Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd diwygiedig bellach yn cynnwys mwy o bwyslais ar sut gall y cyhoedd gymryd rhan ym mhroses ddemocrataidd gwneud penderfyniadau'r Cyngor.
Mae Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd yn egluro sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n dymuno sicrhau y darperir gwybodaeth i’r bobl sy’n byw ym Sir Conwy, yn gweithio ac yn ymweld yma, a bod y Cyngor yn eu cynnwys ac yn gwrando arnynt wrth ddarparu ei wasanaethau, i wneud bywyd yn well yn ein cymunedau.
Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i annog pobl i gyfranogi at yr hyn y mae’n ei wneud, rhoi cyfleoedd cyson i bobl leisio’u barn a chyfrannu at y modd y gwneir penderfyniadau a’r ffordd y darperir gwasanaethau.
Rydym yn ymrwymo i sicrhau bod ein gwaith ymgysylltu’n gweithio’r ddwy ffordd, gan gynnwys gwrando ar leisiau ein dinasyddion, cymunedau, staff, aelodau etholedig a phartneriaid wrth wneud penderfyniadau a llunio gwasanaethau a pholisïau sy’n effeithio arnynt.
Mae’n ofynnol bod y strategaeth hon ar waith ar gyfer pob tymor gwleidyddol y Cyngor etholedig ac o’r herwydd, bydd yn cael ei hadolygu a’i diweddaru ar ôl pob etholiad llywodraeth leol.
Mae’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd eisoes wedi ystyried y drafft a byddem yn awr yn croesawu eich barn chi, cyn iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor a’i gyhoeddi’n derfynol.
Rhannwch eich barn
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 24 Hydref a 4 Rhagfyr 2025.
Sut fydd eich data’n cael ei ddefnyddio
Bydd gwybodaeth a all eich adnabod chi, yn cael ei weld gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn unig. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw am 5 mlynedd yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU). Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y ffordd y bydd eich data’n cael ei ddefnyddio ar: Hysbysiad Preifatrwydd: Gwella a Datblygu Corfforaethol.
Fformatau Eraill
Mae’r ymgynghoriad hwn ar gael mewn fformatau eraill ar gais trwy gysylltu sgwrsysir@conwy.gov.uk.