Mae Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd yn egluro sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n dymuno sicrhau y darperir gwybodaeth i’r bobl sy’n byw ym Sir Conwy, yn gweithio ac yn ymweld yma, a bod y Cyngor yn eu cynnwys ac yn gwrando arnynt wrth ddarparu ei wasanaethau, i wneud bywyd yn well yn ein cymunedau.
Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i annog pobl i gyfranogi at yr hyn y mae’n ei wneud, rhoi cyfleoedd cyson i bobl leisio’u barn a chyfrannu at y modd y gwneir penderfyniadau a’r ffordd y darperir gwasanaethau dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Mae’r strategaeth hon yn egluro sut y gall y cyhoedd gymryd rhan mewn penderfyniadau, ynghyd â’n hamcanion a’n hegwyddorion ar gyfer darparu ymagwedd effeithiol ac wedi ei chydlynu tuag at gyfranogiad y cyhoedd, gan gynnwys sut y byddwn yn monitro a chyflawni’r rhain.
Edrychwn ymlaen at weithio â chi wrth gyflawni’r strategaeth hon, gwneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau y mae pobl Conwy’n eu gwerthfawrogi a’u hangen.