Ein hymrwymiad
Mae newid hinsawdd yn fater sy’n diffinio ein cyfnod ni a’r bygythiad mwyaf i’n lles. Rydym wedi ymrwymo i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Byddwn yn paratoi ar gyfer, ac yn lliniaru effeithiau cynhesu byd eang, cynnydd yn lefel y môr a thywydd eithafol.
Yn dilyn y Datganiad Argyfwng Hinsawdd fe wnaethom sefydlu Rhaglen Her yr Hinsawdd er mwyn rhoi ar waith ein gweledigaeth i arwain ein cymunedau yn ein nod i fod yn gyngor di-garbon net.
Ein nod yw:
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a ddaw o’n hystadau, fflyd, staff yn teithio i’r gwaith, teithio ar gyfer busnes, y gadwyn gyflenwi a goleuadau stryd er mwyn llwyddo i greu allyriadau di-garbon net.
- Gwrthbwyso’r allyriadau sydd yn weddill erbyn 2030.
- Datblygu a gweithredu ar gynllun ynni ardal leol ar gyfer Sir Conwy erbyn 2030.
Mae cynllun datgarboneiddio Conwy yn dangos y llwybr y byddwn yn ei gymryd i fod yn Awdurdod Lleol di-garbon net erbyn 2030.
Beth mae di-garbon net yn ei olygu?
Mae di-garbon net yn golygu lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a chael cydbwysedd rhwng yr allyriadau yr ydym yn eu creu a’r allyriadau yr ydym yn ei dynnu o atmosffer y ddaear.
Byddwn yn ddi-garbon net pan fydd y cyfanswm yr ydym yn ei ychwanegu yn ddim mwy na’r cyfanswm yr ydym yn ei dynnu i ffwrdd.
Pam fod hyn yn bwysig?
Yr ydym eisoes yn gweld effaith newid yn yr hinsawdd gyda lefelau’r môr yn codi a newid ym mhatrymau tywydd gan gynnwys llifogydd a stormydd garw. Bydd hyn ond yn gwaethygu os yw cynhesu byd-eang yn cynyddu.
Bydd yr hyn a wnawn yn y ddegawd nesaf i leihau allyriadau yn hanfodol i ddyfodol Conwy a’n planed.
Ein nod yw bod yn Gyngor di-garbon net erbyn 2030. Mae di-garbon net yn bwysig oherwydd dyma'r ffordd orau i ni leihau cynhesu byd-eang a thaclo newid yn yr hinsawdd.
Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd
Mae ein gweithgareddau’n cael effaith cadarnhaol a negyddol ar yr amgylchedd. Rydym yn cydnabod fod gennym rôl flaenllaw wrth amddiffyn a chynnal amgylchedd naturiol ein sir.
Rydym wedi rhoi Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd ar waith ym mhob un o’n gwasanaethau. Mae hyn yn ein helpu ni leihau a rheoli ein heffeithiau amgylcheddol negyddol ac i wella ein perfformiad amgylcheddol cadarnhaol.
Caiff y Ddraig Werdd ei dilysu’n annibynnol drwy asesiad blynyddol. Mae ein perfformiad amgylcheddol wedi’i grynhoi yn yr adroddiad amgylcheddol blynyddol.