Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Datganiad Argyfwng Hinsawdd


Summary (optional)
Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau ar newid hinsawdd.
start content

Mae'r Cyngor yn canolbwyntio ar Newid Hinsawdd fel y pwnc diffiniol ar hyn o bryd sydd yn peri'r bygythiad mwyaf i'n lles, yn fyd-eang ac yn lleol.   Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Byddwn yn paratoi ar gyfer, ac yn lleihau’r effeithiau o gynhesu byd-eang, codiad yn lefel y môr a digwyddiadau'r tywydd sy’n eithafol.  

Ar 9 Mai 2019, cafodd y penderfyniad ei basio yn unfrydol yn y Cyngor Llawn:

“Mae’r Cyngor yn nodi fod effeithiau newid hinsawdd a digwyddiadau'r tywydd sy'n eithafol eisoes wedi cael effaith  ar breswylwyr y sir, ac yn arbennig y rheiny sydd yn byw mewn ardaloedd sydd mewn perygl cynyddol o lifogydd.

Mae’r Cyngor hefyd yn cydnabod bod disgwyl i lefel y môr godi 1.1 metr dros y ganrif nesaf, a bod llifogydd yn costio oddeutu £200 miliwn y flwyddyn i economi Cymru.

Mae’r Cyngor yn cyhoeddi argyfwng hinsawdd ac wedi ymrwymo i sicrhau fod y sir yn parhau i fod yn gartref bywiog, ymarferol a chynaliadwy i’n plant a chenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau positif sydd eu hangen i leihau allyriadau carbon ac i ymdrechu i greu dyfodol carbon niwtral, “Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r gefnogaeth a’r adnoddau angenrheidiol er mwyn gallu lleihau effeithiau carbon yn effeithiol ar draws Cymru.

Bydd y Cyngor yn gofyn i’r Bwrdd Rhaglen Gwyrdd ddatblygu, yn ystod y 12 mis nesaf, cynllun clir er mwyn arwain at fod yn Awdurdod sy'n ddefnyddiwr di-garbon.Bydd y cynllun yn cael ei lunio gyda'r targed i gael ei weithredu’n llwyr yn ystod y 10 mlynedd nesaf."

end content