Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynllun Sero Net


Summary (optional)
start content

Beth mae di-garbon net yn ei olygu?

Mae di-garbon net yn golygu lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a chael cydbwysedd rhwng yr allyriadau yr ydym yn eu creu a’r allyriadau yr ydym yn ei dynnu o atmosffer y ddaear.

Byddwn yn ddi-garbon net pan fydd y cyfanswm yr ydym yn ei ychwanegu yn ddim mwy na’r cyfanswm yr ydym yn ei dynnu i ffwrdd.

Pam ei fod yn bwysig?

Yr ydym eisoes yn gweld effaith newid yn yr hinsawdd gyda lefelau’r môr yn codi a newid ym mhatrymau tywydd gan gynnwys llifogydd a stormydd garw.  Bydd hyn ond yn gwaethygu os yw cynhesu byd-eang yn cynyddu.

Bydd yr hyn a wnawn yn y ddeng mlynedd nesaf i leihau allyriadau yn hanfodol i ddyfodol Conwy a’n planed.

Rydym yn anelu at fod yn gyngor di-garbon net erbyn 2030.  Mae di-garbon net yn bwysig oherwydd dyma'r ffordd orau i ni leihau cynhesu byd-eang a thaclo newid yn yr hinsawdd.

Rydym wedi llunio cynllun sy’n dangos sut rydym yn anelu at fod yn gyngor sero net erbyn 2030.

Gweld ein Cynllun Sero Net (PDF, 0.9MB)

end content