Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Strategaethau, Cynlluniau a Pholisïau Strategaethau Digidol a Seibrgadernid

Strategaethau Digidol a Seibrgadernid


Summary (optional)
Mae Strategaeth Ddigidol a Strategaeth Seibrgadernid Conwy ar gyfer y cyfnod rhwng 2022 – 2027 yn awr wedi cael eu cymeradwyo gan y Cyngor.
start content

Strategaeth Ddigidol


Mae’r Strategaeth Ddigidol yn amlinellu sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwneud y mwyaf o dechnoleg i gyflawni ei weledigaeth o ddatblygu Conwy fel Sir flaengar sy’n creu cyfleoedd.  I gynorthwyo i gyflawni’r weledigaeth hon mae angen i ni ddatblygu fel Sir ddigidol, un sy’n croesawu arloesi ar draws ein gwasanaethau, yn hyrwyddo swyddi o ansawdd ac yn darparu cysylltedd digidol di-dor i’w dinasyddion, partneriaid a busnesau.

Rydym yn uchelgeisiol ar gyfer dyfodol Conwy ac yn cydnabod y bydd datblygu Sir sy’n gwbl ddigidol yn golygu y bydd angen i ni weithio i gefnogi unrhyw un sy’n defnyddio ein gwasanaethau.  Mae ein blaenoriaethau yn y Strategaeth Ddigidol wedi’u datblygu i sicrhau bod y blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor (2022 - 2027) yn cael eu cefnogi gan dechnolegau digidol a’r datrysiadau yr ydym yn eu mabwysiadu.

Strategaeth Seibrgadernid


Mae’r Strategaeth Seibrgadernid yn amlinellu ein dull ar gyfer diogelu ein systemau gwybodaeth a’r data maent yn ei gadw i sicrhau bod y gwasanaethau rydym yn eu darparu mor ddiogel â phosibl.  Mae’n hanfodol bod ein dinasyddion, busnesau, ymwelwyr a budd-ddeiliaid yn gallu trafod a rhyngweithio gyda ni yn ddiogel.  Mae hyn yn cynnwys cyflawni cydbwysedd o groesawu cyfleoedd digidol, gan gynnwys sicrhau bod gwybodaeth ar gael ac yn fwy hygyrch i ystod eang o bobl, a sicrhau bod y lefelau diogelu cywir ar waith.

end content