Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Strategaethau, Cynlluniau a Pholisïau Strategaeth Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru

Strategaeth Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru


Summary (optional)
start content

Ein gweledigaeth

 ‘Gall pobl Gogledd Cymru fyw bywydau diogel, cydradd a di-drais, mewn cymunedau heb ddioddef camdriniaeth na chamfanteisio’.

Mae Gogledd Cymru’n cydweithio ar daclo pob agwedd ar Drais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig, Trais Rhywiol, Caethwasiaeth Fodern, Masnachu Pobl, Troseddau Mewnfudo Cyfundrefnol a Chamfanteisio.

Mae Bwrdd Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru yn cynrychioli’r holl bartneriaid statudol ac anstatudol ledled y rhanbarth, gydag ymrwymiad i ddull cydweithredol a chydlynol o fynd i’r afael â phob elfen o fregusrwydd a chamfanteisio.

Mae Strategaeth Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru 2021-2024 yn cynnwys dull amlasiantaeth o fynd i’r afael â bregusrwydd a cham-fanteisio yng Ngogledd Cymru.  Mae agendau Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) a Chaethwasiaeth Fodern wedi eu halinio â’r pedwar Amcan Strategol:

Paratio  Atal  Gwarchod  Ymroi

Mae'r Strategaeth yn galluogi ac yn cefnogi arferion a syniadau arloesol, yn ogystal â chefnogi gwasanaethau presennol, er mwyn darparu pecyn cydlynus o gymorth i ddioddefwyr, goroeswyr a’u teuluoedd.  Mae’r strategaeth hefyd yn sicrhau bod cyflawnwyr yn atebol ac yn cefnogi cymunedau er mwyn hyrwyddo ethos o ddiogelwch, cydraddoldeb a lles.

Strategaeth Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru 2021-2024 - Diweddariad ar Gynnydd, Mehefin 2022 (PDF,  555KB)

Strategaeth Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru 2021-2024 - Diweddariad ar Gynnydd, Mawrth 2023 (PDF, 726KB)

end content