Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Dechreuwyr Newydd What Do We Do

Beth rydym yn ei wneud


Summary (optional)
start content

Mae’r ddelwedd isod yn rhoi cipolwg o’r hyn rydym yn ei wneud yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn diwrnod, mewn wythnos, mewn mis ac mewn blwyddyn. Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau Conwy'n cael effaith sylweddol ar fywyd bob dydd pobl leol. Casglu sbwriel y cartref, ysgolion y plant, y canolfannau hamdden y mae pobl yn eu defnyddio i gadw'n heini, gofal i bobl dan anfantais, safonau hylendid y bwytai lleol, yr amrediad o ddeunyddiau cyfeirio yn y llyfrgell leol – cyfrifoldeb y Cyngor yw'r holl bethau hyn a llawer mwy y tu hwnt. Dyma ein gwasanaethau rheng flaen, sy’n darparu ar gyfer y gymuned leol ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Mae gennym hefyd amrywiaeth o wasanaethau cefnogi sy’n gweithio i sicrhau bod ein  gweithwyr yn cael eu talu, bod y dechnoleg gennym i wneud ein gwaith, ein bod yn gweithio’n ddiogel, bod y gwaith a wnawn o fewn y gyfraith a’n bod yn atebol am yr hyn a wnawn. H.y. Adrannau’r Gyflogres, AD, TG, y Gyfraith ac Iechyd a Diogelwch.

I gael gwybod mwy am bob un o’n meysydd gwasanaeth a’r hyn a wnânt, cliciwch ar enw’r gwasanaeth dan ‘yn yr adran hon’. 

A snapshot of what we do in___png

end content