Ysgolion cynradd: Cynigir prydau ysgol am ddim i holl dysgwyr ysgolion cynradd.
Ysgolion uwchradd: Cynigir pryd llawn am ddim i ddysgwyr o teuluoedd sydd wedi llwyddo gyda cais am y budd cinio am ddim.
Mae prydau ysgol am ddim ar gyfer disgyblion y mae eu rhieni/gwarcheidwaid yn cael un o’r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm*
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm*
- Cefnogaeth o dan Rhan VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Elfen Warantedig Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Cymorth Cyflogaeth Cysylltiedig ag Incwm*
- Credyd Cynhwysol gydag enillion net blynyddol o ddim mwy na £7,400*
- Credyd Cynhwysol ac enillion blynyddol net mwy na £7,400 (blynyddoedd 7 ac 8 yn unig)
*Mae disgyblion sy’n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cymorth Cyflogaeth Cysylltiedig ag Incwm neu Gredyd Cynhwysol gyda chyfyngiad enillion net blynyddol o £7,400 drwy eu hawl eu hunain hefyd yn gymwys
Os oeddech chi’n derbyn pryd ysgol am ddim ar gyfer un o’ch plant gan eich bod yn derbyn un o’r uchod tan 31 Rhagfyr 2023, byddwch yn parhau i dderbyn eich hawl ar gyfer y plentyn hwnnw tan ddiwedd eu cyfnod presennol mewn addysg h.y. cyfnod yn yr ysgol gynradd neu’r ysgol uwchradd (gan gynnwys y 6ed dosbarth), hyd yn oed os bydd eich amgylchiadau yn newid. Fodd bynnag, bydd arnoch chi angen rhoi gwybod i ni os ydi’ch plentyn yn gadael neu’n newid ysgol cyn y dyddiad hwnnw.
Fodd bynnag, os bydd pryd ysgol am ddim yn cael ei ddyfarnu i’ch plentyn/plant o 1 Ionawr 2024 ymlaen, gan eich bod yn derbyn un o’r uchod, bydd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Fudd–daliadau os bydd eich amgylchiadau yn newid, gan y bydd eich hawl i gael prydau ysgol am ddim i’ch plant yn dod i ben.
Os yw eich plentyn / plant eisoes yn cael Prydau Ysgol Am Ddim, nid oes gofyn i chi lenwi ffurflen gais bob blwyddyn, oni bai fod eich amgylchiadau yn newid.
Ceisiadau
Os oes well gennych gopi papur, neu fod angen unrhyw gymorth gyda llenwi’r ffurflen arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, gallwch gysylltu gydag aelod o’r Tîm Budd-daliadau ar rif ffôn 01492 576491.
- Cyfeiriad post: Gwasanaethau Asesu Refeniw a Budd-daliadau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Bae Colwyn, LL29 0GG
- Cyfeiriad ymweld: Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, LL29 7AZ