Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Budd-daliadau a Grantiau Budd-daliadau Addysg Grant Gwisg Ysgol/Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Grant Gwisg Ysgol/Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy


Summary (optional)
Pwy sy'n gymwys i dderbyn help gyda chostau dillad ysgol ym Mwrdeistref Sirol Conwy a sut i wneud cais.
start content

Pwy syn gymwys am y Grant Gwisg Ysgol/Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) ym Mwrdeistref Sirol Conwy a beth ywr meini prawf?

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) a dyma gyfraddau 2022/23 hyd at 30/6/2023:

  • £225 ar gyfer disgyblion Derbyn mewn ysgol gynradd
  • £225 ar gyfer disgyblion ysgol gynradd ym Mlynyddoedd 1, 2, 3, 4, 5, 6 
  • £300 ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd ym Mlwyddyn 7
  • £225 ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd ym Mlynyddoedd 8, 9, 10 ac 11


Disgyblion 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14 and 15 oed mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion.

Nod y Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) yw helpu pobl i brynu gwisg ysgol, gan gynnwys côt ac esgidiau, gwisg chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau, cyfarpar fel bag ysgol a deunydd ysgrifennu, gliniadur a llechen (os na fedr yr ysgol roi benthyg yr offer i'r disgybl), gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys pethau fel y sgowtiaid, y geidiau, cadetiaid, crefftau ymladd, chwaraeon, celfyddydau perfformio neu ddawnsio, offer arbenigol ar gyfer gweithgareddau’r cwricwlwm newydd, fel dylunio a thechnoleg, ac offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol ar gyfer pethau fel dysgu yn yr awyr agored.


Bydd y Grant Datblygu Disgyblion i blant Derbyn a Blynyddoedd 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10 and 11 ar gael gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid sydd â phlant yn mynd i ysgol o fewn Bwrdeistref Sirol Conwy ac sy’n derbyn unrhyw beth o’r rhestr isod.

  • Cymhorthdal Incwm*
  • Lwfans Ceisio Gwaith Cysylltiedig ag Incwm*
  • Lwfans Cymorth Cyflogaeth Cysylltiedig ag Incwm*
  • Credyd Treth Plant, ar yr amod nad ydych yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith ac nad yw incwm blynyddol eich aelwyd, yn unol ag asesiad Cyllid a Thollau, yn fwy nag £16,190.
  • Credyd Treth Gwaith parhaus – y taliad y gall rhywun ei gael am bedair wythnos arall ar ôl iddynt beidio â bod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith
  • Elfen Warantedig Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Cynhwysol â chyfyngiad enillion net o £7,400 Ebrill

(*Mae disgyblion sy’n derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cymorth Cyflogaeth yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Cynhwysol drwy eu hawl eu hunain hefyd yn gymwys)

Mae’r Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) ar gael i blant sy'n derbyn gofal ac fe ddaw’n uniongyrchol o’r Adran Addysg bob blwyddyn ysgol. Gwnewch gais ysgrifenedig a’i anfon yn syth i’r cyfeiriad canlynol:

Pennaeth Gwasanaethau Addysg
Gwasanaethau Addysg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN


Caiff grantiau eu talu trwy drosglwyddiad BACS i’ch cyfrif banc neu trwy daliad siec, ac fe allant fod yn daladwy mewn perthynas â mwy nag un plentyn.

Os ydych wedi cael Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) yn y gorffennol ar gyfer eich plentyn / plant (ac os ydynt yn cael Prydau Ysgol Am Ddim ar hyn o bryd), nid oes gofyn i chi gwblhau ffurflen gais bob blwyddyn, oni bai fod eich amgylchiadau yn newid.

Gwneud cais

Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy  
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN


Os ydych angen ffurflen bapur, neu unrhyw gymorth gyda llenwi’r ffurflen; neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, gallwch gysylltu gydag aelod o’r tîm ar rif ffôn 01492 576491.

Beth fydd yn digwydd i’m gwybodaeth?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn casglu eich gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaethau i chi sy’n berthnasol i’ch cais. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu gydag unrhyw drydydd parti arall oni bai fod y gyfraith yn gofyn i ni wneud hynny. I gael rhagor o wybodaeth am y modd rydym yn ymdrin â gwybodaeth bersonol, edrychwch ar ein polisi preifatrwydd ar www.conwy.gov.uk/garb/preifatrwydd

end content