Prydau Ysgol am Ddim
Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2
Cynigir prydau ysgol am ddim i ddysgwyr y Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 o 1 Medi 2022 ymlaen, wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim mewn Ysgolion Cynradd.
Os yw eich incwm yn isel, mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim ar gyfer eich plant er gwaethaf y ddarpariaeth gynhwysol, oherwydd os ydych yn gymwys am Fudd-dal Prydau Ysgol am Ddim, mae budd-daliadau eraill ar gael i chi, ac mae’n cynyddu’r cyllid i ysgol eich plentyn.
Taliadau lwfans cinio am ddim yn ystod y gwyliau
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau yn parhau i fod ar gael i blant o deuluoedd incwm is dros y Pasg a'r Sulgwyn. Mae’r cyllid yn seiliedig ar gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Noder fod y ddarpariaeth hon yn parhau i fod ar gyfer dysgwyr sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim (fel y diffinnir o dan adran 512ZB o Ddeddf Addysg 1996). Nid yw hyn yn cynnwys y garfan ehangach o ddysgwyr cynradd ychwanegol sydd bellach yn cael Prydau Ysgol am ddim.
Bydd pob dysgwr cymwys yn derbyn taliad o £7.80 ar ddydd Iau 4 Mai 2023 ar gyfer y dyddiau gŵyl y banc 1af a 8fed Mai 2023. A thaliad o £19.50 ar ddydd Iau 25 Mai 2023 gyfer gwyliau’r Sulgwyn.
Mae Prydau Ysgol Am Ddim ar gyfer disgyblion sy’n mynd i ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y mae eu rhieni/gwarcheidwaid yn cael un o’r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm*
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm*
- Credyd Treth Plant, ar yr amod nad ydych yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith ac nad yw incwm blynyddol eich aelwyd, yn unol ag asesiad CThEF, yn uwch na £16,190
- Cefnogaeth o dan Rhan VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999.
- Elfen Warantedig Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Cymorth Cyflogaeth Cysylltiedig ag Incwm*
- Credyd Treth Gwaith parhaus – y taliad y gall rhywun ei gael am bedair wythnos arall ar ôl iddynt beidio â bod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith
- Credyd Cynhwysol gydag enillion net blynyddol o ddim mwy na £7400.
(*Mae disgyblion sy’n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cymorth Cyflogaeth yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Cynhwysol gyda chyfyngiad enillion net blynyddol o £7400 drwy eu hawl eu hunain hefyd yn gymwys)
Os ydych yn cael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd ar gyfer un o’ch plant oherwydd eich bod yn cael Credyd Cynhwysol, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Cymorth Cyflogaeth yn seiliedig ar incwm, Credyd Gwarant Pensiwn, byddwch yn parhau i gael hawl ar gyfer y plentyn hwnnw nes mis Rhagfyr 2023 hyd yn oed os yw eich amgylchiadau'n newid. Bydd angen i chi ein hysbysu ni fodd bynnag os yw eich plentyn yn gadael, neu’n newid ysgol cyn y dyddiad hwnnw.
Os yw eich plentyn / plant eisoes yn cael Prydau Ysgol Am Ddim, nid oes gofyn i chi gwblhau ffurflen gais bob blwyddyn, oni bai fod eich amgylchiadau yn newid.
Gwneud cais
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN
Os oes well gennych gopi papur, neu fod angen unrhyw gymorth gyda llenwi’r ffurflen arnoch; neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, gallwch gysylltu gydag aelod o’r tîm ar rif ffôn 01492 576491.