Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Apeliadau - Budd-dal Tai


Summary (optional)
Beth i’w wneud os ydych chi’n anghytuno â'n penderfyniad ynglŷn â’ch hawl i fudd-dal tai? 
start content

Os hoffech chi wybod mwy am y penderfyniad neu os ydych chi’n credu bod y penderfyniad yn anghywir, gallwch wneud cais am Ddatganiad o'r Rhesymau. Mae’n rhaid i chi wneud y cais hwn o fewn 1 mis calendr i ddyddiad y penderfyniad gwreiddiol. Gallwch naill ai anfon llythyr i'r Swyddfa Budd-daliadau (cyfeiriad isod), neu anfon e-bost.

Os hoffech chi ofyn i’r Swyddfa Budd-daliadau ailystyried y penderfyniad gwreiddiol, gallwch naill ai anfon llythyr i'r Swyddfa Budd-daliadau (cyfeiriad isod), neu anfon e-bost. Fe ddylech chi wneud hyn o fewn 1 mis calendr i ddyddiad y penderfyniad gwreiddiol (neu i’r dyddiad a roddwyd i chi os ydych chi wedi gwneud cais am Ddatganiad o’r Rhesymau). Nodwch yn llawn eich rhesymau dros feddwl bod y penderfyniad yn anghywir. Bydd swyddog gwahanol i’r swyddog a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol yn ailystyried eich hawl i fudd-dal tai, a byddwch yn cael gwybod am y canlyniad yn ysgrifenedig.

Os ydych chi’n dal yn anfodlon â’r penderfyniad ar ôl iddo gael ei ailystyried, gallwch apelio drwy lenwi’r Ffurflen Apelio. Gallwch argraffu’r ffurflen oddi ar y wefan neu fe allwch chi ofyn i'r Swyddfa Budd-daliadau am gopi papur. Bydd yn rhaid llenwi a dychwelyd y Ffurflen Apelio i’r Swyddfa Budd-daliadau (cyfeiriad isod) o fewn 1 mis calendr i ddyddiad y penderfyniad wedi’i ailystyried.

Rydych chi hefyd yn gallu cyflwyno apêl heb ofyn i’r Swyddfa Budd-daliadau ailystyried y penderfyniad. I wneud hyn bydd arnoch angen llenwi'r Ffurflen Apelio. Gallwch argraffu’r ffurflen oddi ar y wefan neu ofyn i'r Swyddfa Budd-daliadau am gopi papur. Bydd yn rhaid llenwi a dychwelyd y Ffurflen Apelio i’r Swyddfa Budd-daliadau (cyfeiriad isod) o fewn 1 mis calendr i ddyddiad y penderfyniad.

Mae'r apeliadau yn cael eu hystyried gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlys Ei Fawrhydi, sy’n gwbl annibynnol ar yr Awdurdod Lleol. Lawrlwythwch y daflen/ffurflen apelio am fwy o wybodaeth ynglŷn ag apelio.

Cyfeiriad y Swyddfa Budd-daliadau ar gyfer gohebiaeth ysgrifenedig:

Yr Adain Fudd-daliadau
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN


Cyfeiriad Ymweld:

Coed Pella
Ffordd Conwy
Bae Colwyn
LL29 7AZ
end content