Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Eithriadau


Summary (optional)
Mae yna eiddo lle nad oes raid i chi dalu Treth y Cyngor. Darganfod mwy am gategoriau eithriadau.
start content

Eiddo eithriedig

Mae yna eiddo lle nad oes raid i chi dalu Treth y Cyngor. Maent yn cynnwys eiddo sydd:

  • Heb ei ddodrefnu (eithriedig am hyd at 6 mis)
  • Yn wag ac yn eiddo i elusen (eithriedig am hyd at 6 mis)
  • Yn wag ac yn cael ei atgyweirio neu angen gwaith strwythurol neu addasiadau mawr (eithriedig am hyd at 12 mis)
  • Wedi'i adael yn wag gan rywun sydd yn y carchar, ysbyty neu gartref gofal preswyl
  • Yn wag ac yn aros am brofeb neu lythyrau gweinyddu (a hyd at 6 mis wedyn)
  • Wedi'i adael yn wag gan rywun sydd wedi symud er mwyn darparu gofal personol i rywun arall neu gael gofal personol
  • Wedi'i adael yn wag gan fyfyrwyr.
  • Wedi'i ailfeddiannu
  • Yn gyfrifoldeb ymddiriedolwr methdalwr
  • Yn wag gan fod eu galwedigaeth wedi'i gwahardd gan y gyfraith.
  • Yn aros i weinidog crefyddol symud i mewn.
  • Pobl sy’n Gadael Gofal - Os ydych yn gadael gofal, efallai y byddwch wedi’ch eithrio rhag talu’r dreth gyngor os: ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod yn 18 oed neu’n hŷn ond heb gyrraedd 25 oed eto

Gallwch rŵan wneud cais ar-lein gan ddefnyddio’r dolenni cyswllt ar ochr dde’r dudalen hon.

Cysylltwch â ni:

Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN

E-bost: trethycyngor@conwy.gov.uk
Rhif Ffôn: 01492 576607


Dogfennau

end content