Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Ymgynghoriadau Addysg Uno Ysgol Glan Gele ac Ysgol Sant Elfod

Uno Ysgol Glan Gele ac Ysgol Sant Elfod


Summary (optional)
start content

Mewn perthynas â’r cynnig i sefydlu ysgol gymysg cyfrwng Saesneg newydd ar gyfer Abergele a chau Ysgol Glan Gele ac Ysgol Sant Elfod.

Yn ei gyfarfod ar 12 Awst 2025, yn dilyn ystyriaeth ofalus, penderfynodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gadarnhau’r cynnig i uno Ysgol Glan Gele ac Ysgol Sant Elfod, sy’n golygu y bydd y ddwy ysgol yn dod i ben (cau) ar 31 Awst 2026.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig sefydlu ysgol gymysg cyfrwng Saesneg newydd ar gyfer Bae Cinmel i'w chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar safleoedd presennol Ysgol Glan Gele ac Ysgol Sant Elfod ar gyfer plant 3-11 oed. Bydd y cynnig hwn yn cael ei roi ar waith ar 1 Medi 2026.

Wrth benderfynu ar y cynnig, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i’r ffactorau a ganlyn yn unol â’r Cȏd Trefniadaeth Ysgolion (11/2018):

  • ansawdd a safonau mewn addysg
  • yr angen am leoedd
  • adnoddau addysg a goblygiadau ariannol eraill

Gwnaethpwyd y penderfyniad yn dilyn cyfnod gwrthwynebu statudol a gynhaliwyd rhwng 28 Ebrill 2025 a 25 Mai 2025. Mae’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ac ymateb yr awdurdod lleol wedi’u crynhoi yn yr adroddiad gwrthwynebiadau a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 12 Awst 2025.

Yn unol â'r penderfyniad, bydd Ysgol Glan Gele ac Ysgol Sant Elfod yn cau ar 31 Awst 2026 ac yn cael eu disodli gan un ysgol ar gyfer Abergele ar ddau safle.

Dogfennau:

Hanes yr ymgynghoriad:

content

content

 

end content