Yn y cyfarfod ar 11 Tachwedd 2025, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fod y cynnig i uno Ysgol T Gwynn Jones ac Ysgol Iau Hen Golwyn yn mynd yn ei flaen i’r cam hysbysiad statudol.
P’un a oes gwrthwynebiadau’n dod i law o fewn y cyfnod statudol ai peidio, bydd y cynnig yn cael ei ystyried gan yr Awdurdod ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod.
Crynodeb o’r hysbysiad statudol:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Coed Pella, Bae Colwyn, LL29 7AZ - Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013
HYSBYSIR DRWY HYN yn unol ag Adran 41 a 43 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018 bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, wedi ymgynghori â’r cyfryw bersonau sy’n ofynnol, yn cynnig yr isod:
1. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig sefydlu ysgol gymysg cyfrwng Saesneg newydd ar gyfer plant o 3-11, i’w chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar safleoedd Ysgol Glan Gele ac Ysgol Sant Elfod.
O ganlyniad i’r cynigion a amlinellir uchod:
2. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig cau YSGOL T GWYNN JONES, FFORDD LLANELIAN, HEN GOLWYN, BAE COLWN, LL29 9UA. Mae’r ysgol ar hyn o bryd yn cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Cynigir gweithredu’r cynnig ar 31ain Awst 2027.
3. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig cau YSGOL IAU HEN GOLWYN, CHURCH WALKS, HEN GOLWYN, BAE COLWYN, LL29 9RU. Mae’r ysgol ar hyn o bryd yn cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Cynigir gweithredu’r cynnig ar 31ain Awst 2027.
Dyddiad: 28 Tachwedd 2025
Hysbysiad statudol llawn (PDF document)
Hanes yr ymgynghoriad:
content
Yn y cyfarfod ar 13 Mai 2025, rhoddodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gymeradwyaeth i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad ynglŷn â’r cynnig i uno Ysgol T Gwynn Jones ac Ysgol Iau Hen Golwyn.
Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn para o 3 Mehefin 2025 tan 15 Gorffennaf 2025.
Bydd y Cyngor yn ystyried yn ofalus unrhyw sylwadau a wneir yn ysgrifenedig erbyn y dyddiad hwn.
O ganlyniad i’r ymgynghoriad, gallai'r Cyngor benderfynu peidio â bwrw ymlaen ymhellach â’r cynnig neu fwrw ymlaen â’r cynnig neu addasiad ohono. Byddai unrhyw gynnig ffurfiol yn cael ei gyhoeddi ar ffurf hysbysiad statudol cyhoeddus.
Mae gan y Cyngor bwerau i gynnig ehangu neu gau ysgolion. Pe bai’r cynigion yn cael eu cyhoeddi ar ôl y cyfnod ymgynghori hwn, yna byddai cyfnod statudol o 28 diwrnod lle gellir cyflwyno sylwadau pellach a gwrthwynebiadau ffurfiol.
Ni fydd unrhyw ymatebion yn ystod yr Ymgynghoriad yn cael eu hystyried fel gwrthwynebiadau ffurfiol. Er mwyn i ymatebion gael eu hystyried fel gwrthwynebiadau statudol mae’n rhaid eu cyflwyno yn ysgrifenedig neu drwy e-bost o fewn y cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod.
P'un a fydd gwrthwynebiadau yn dod i law o fewn y cyfnod statudol ai peidio, bydd y cynnig yn cael ei ystyried gan yr Awdurdod ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod. Disgwylir i Gabinet Conwy benderfynu ar y cyhoeddiad hwn ym mis Medi/Hydref 2025.
Dyddiad cau’r ymgynghoriad: 15 Gorffennaf 2025
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad i’r Cabinet ei ystyried yn ystod Tymor Ysgol yr Hydref.
Dogfennau: